Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

Ynglŷn â’r Prosiect

Mae’r corpws yn cynnwys trawsgrifiadau o 54 llawysgrif yn cynnwys rhyw 2.8 miliwn gair yn adlewyrchu rhyw 98,000 eitem unigryw mewn 140 testun.

Trawsgrifiwyd y deunyddiau a’u hamgodio gan D. Mark Smith a Diana Luft.

Golygwyd y trawsgrifiadau a’r wefan gan Peter Wynn Thomas and Diana Luft.

Cynlluniwyd y wefan a’r moddion chwilio a’u gweithredu gan Chris Veness, Movable Type, Caergrawnt.

Diogelir holl gynnwys y wefan hon gan hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan na’r data, ac eithrio atgynhyrchu deunyddiau ar gyfer ymchwil neu at bwrpasau addysgol anfasnachol ar ffurf brintiedig. Rhaid cael caniatâd os dymunir eu defnyddio at unrhyw ddiben arall.

O ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar y wefan mewn cyhoeddiadau gofynnir ichi gydnabod y ffynhonnell a chyfeirio ati fel a ganlyn:

Os oes gennych gwestiwn ynghylch defnyddio'r adnodd hwn, a wnewch chi gysylltu ag Ysgol y Gymraeg at cymraeg@caerdydd.ac.uk.

Sut i ddefnyddio’r trawsgrifiadau hyn

Y tu ôl i’r trawsgrifiadau sy’n ymddangos ar y wefan mae cyfres o ddogfennau XML. Mae’r amgodio XML hwn yn disgrifio sawl agwedd gweledol o’r llawysgrifau, yn ogystal â chaniatáu sylwadau golygyddol. Prosesir yr XML i mewn i HTML er mwyn dangos y llawysgrifau mor gywir â phosibl. Ceir enghraifft o’r XML o LlGC Llsgr. Peniarth 47i yma.

Pa borydd i’w ddefnyddio

Defnyddir ffontiau CSS gosodedig sy’n galluogi i lythrennau arbennig V Cymraeg Canol’, ac Ll Cymraeg Canol’. ymddangos ar y dudalen. Mae angen defnyddio fersiwn o un o’r poryddion canlynol er mwyn dangos y llythrennau hyn yn gywir: Internet Explorer 7.0+; Firefox 3.5+; Opera 10.0+; Safari 3.1+; Chrome 4+.

Egwyddorion Cyffredinol

Ymddengys y testun mewn du gan ddefnyddio’r ffont Linux Biolinum. Mae eitemau mewn glas (ar gyfer llawysgrifau 1300-1350) neu olif (ar gyfer llawysgrifau 1350-1425) yn dangos sylwadau golygyddol. Mae’r defnydd o’r ddau liw hyn yn gweithio er mwyn atgoffa’r defnyddiwr o’r gwahaniaethau mewn amgodio rhwng y ddau grŵp o drawsgrifiadau. Ceir manylion ynghylch y gwahaniaethau hyn isod. Nodyn: Ni amgodiwyd rhuddellu yn nhrawsgrifiadau’r llawysgrifau 1300-1350.

Llythrennau

Defnyddir y fersiynau o’r llythrennau ‘v Cymraeg Canol’ ac ‘ll Cymraeg Canol’ a geir yn y ffont Linux Biolinum ac a gynhwysir yn Unicode. Awgrymwyd y llythrennau hyn gan dîm y wefan Rhyddiaith Gymraeg i’r Medieval Unicode Font Initiative (MUFI) ar gyfer eu cynllun i gynnwys sawl llythyren ganoloesol yn egwyddorion Unicode. Cyflwynwyd y cynnig (N3027) yn Ionawr 2006, ac fe dderbyniwyd y llythrennau i Unicode 5.1. Rhyddhawyd y fersiwn hwn o egwyddorion Unicode yn Ebrill 2008. Ceir y llythrennau Cymraeg Canol ar bwyntiau U+1EFA (Latin Capital Letter Middle-Welsh LL), U+1EFB (Latin Small Letter Middle-Welsh LL) , U+1EFC (Latin Capital Letter Middle-Welsh V) a U+1EFD (Latin Small Letter Middle Welsh V) yng nghyfres llythrennau Latin Extended Additional. Ceir gweld cynnig MUFI http://www.mufi.info/proposals/

Mae priflythrennau mawrion, hanner-briflythrennau, a phriflythrennau sy’n estyn dros fwy nag un llinell o’r testun yn ymddangos fel y maent yn y llawysgrif, gan ddisodli’r testun fel y mae ar y dudalen.

Gwahanu geiriau

Mae’r trawsgrifiadau yn dilyn system gwahanu geiriau a geir yn y llawysgrifau. Ceir llinell las (ar gyfer llawysgrifau 1300-1350) neu linell olif (ar gyfer llawysgrifau 1350-1425) yn gwahanu geiriau a ysgrifennwyd fel un gair yn y llawysgrifau ond a ystyrir fel geiriau ar wahân yn y rhestr geiriau ac ar gyfer y moddion chwilio. Ceir dot glas (ar gyfer llawysgrifau 1300-1350) neu ddot olif (ar gyfer llawysgrifau 1350-1425) yn cysylltu geiriau a ysgrifennwyd ar wahân ond a ystyrir fel un gair yn y rhestr geiriau ac ar gyfer y moddion chwilio. Ceir arwydd y plws (+) glas neu olif ar ôl yr hanner cyntaf o eiriau sy’n dechrau ar un llinell ac yn gorffen ar y llinell nesaf.

Byrfoddau

Ehangir byrfoddau’r ysgrifennydd yn y trawsgrifiadau. Ymddengys yr ehangiadau mewn llythrennau italig glas (ar gyfer llawysgrifau 1300-1350) neu olif (ar gyfer llawysgrifau 1350-1425).

Ychwanegiadau

Ymddengys ychwanegiadau gan yr ysgrifennydd mewn testun llai, gyda neges a sbardunir trwy rolio dros y testun llai gyda’r llygoden yn mynegi lleoliad yr ychwanegiad ar y dudalen. Mae ychwanegiadau uwchben y llinell yn ymddangos uwchben y llinell, ac mae rhai o dan y llinell yn ymddangos o dan y llinell. Ceir ychwanegiadau yn ymylau’r tudalennau yn y testun ei hun ni waeth lle mae’r testun yn ymddangos ar y dudalen.

Testun a ddilëwyd

Yn y trawsgrifiadau ceir llinell trwy destun a ddilëwyd yn y llawysgrif, gyda neges a sbardunir trwy rolio dros y testun gyda’r llygoden yn mynegi sut y dilëwyd y testun, e.e. llinell trwy’r testun, testun a rwbiwyd allan, dotiau uwchben y testun, dotiau o dan ac uwchben y testun, dotiau o dan y testun a llinell trwyddo, a.y.b. Mae testun a ddilëwyd trwy roi dotiau oddi tano yn y llawysgrif yn ymddangos gyda dotiau oddi tano yn y trawsgrifiad.

Testun Aneglur

Ymddengys testun aneglur mewn llwyd, gyda neges a sbardunir trwy rolio dros y testun gyda’r llygoden yn mynegi’r rheswm am yr aneglurder, e.e. mae’r testun wedi colli ei lliw, wedi’i ysgrifennu drosto, wedi’i gywiro.

Testun Annarllenadwy

Ymddengys darnau o’r testun sy’n annarllenadwy fel bylchau llwyd yn y trawsgrifiad. Nodyn: Amgodir yr holl destun colledig, pa un a yw’n codi o ddifrod i’r llawysgrif ai oherwydd bod y testun yn annarllenadwy, fel testun annarllenadwy yn y trawsgrifiadau o’r llawysgrifau 1300-1350 ac felly mae i gyd yn ymddangos fel bylchau llwyd yn y trawsgrifiadau hyn.

Difrod i’r Llawysgrif

Ymddengys difrod i’r llawysgrif fel blwch gwag gyda neges a sbardunir trwy rolio drosto gyda’r llygoden yn mynegi’r math o ddifrod, e.e. mae twll naturiol yn y dudalen (mae’r rhain yn tueddu digwydd cyn i’r llawysgrif gael ei hysgrifennu ac felly nid ydynt yn cael effaith ar y testun), mae difrod i’r dudalen (sy’n cael effaith ar y testun), mae’r dudalen wedi’i thocio. Nodyn: Amgodir yr holl destun colledig, pa un a yw’n codi o ddifrod i’r llawysgrif ai oherwydd bod y testun yn annarllenadwy, fel testun annarllenadwy yn y trawsgrifiadau o’r llawysgrifau 1300-1350 ac felly mae i gyd yn ymddangos fel bylchau llwyd yn y trawsgrifiadau hyn.

Gwagle yn y Llawysgrif

Ymddengys gwagleoedd yn y llawysgrif fel gwagleoedd yn y trawsgrifiadau.

Testun a Gyflenwyd

Cyflenwyd testun gan y golygyddion mewn rhai achosion lle mae’r testun gwreiddiol ar goll oherwydd difrod i’r llawysgrif neu fod yr inc wedi colli’i liw. Pwrpas y testun a gyflenwyd hwn yw dangos faint o’r testun a effeithiwyd yn ogystal â dangos cynnwys y testun colledig. Cyflenwyd testun o olygiadau argraffedig, a dim ond pan mae golygiadau dibynadwy o’r testun ar gael. Ymddengys y testun a gyflenwyd mewn ffont courier olif gyda neges a ysbardunir trwy rolio dros y testun gyda’r llygoden yn mynegi’r rheswm am y cyflenwad, e.e. difrod i’r llawysgrif neu fod y testun yn annarllenadwy. Ceir nodyn ym mhennyn y TEI ynghylch y golygiad a ddefnyddiwyd er mwyn cyflenwi’r testun. Nodyn: Ni chyflenwyd testun yn y trawsgrifiadau o lawysgrifau 1300-1350. Amgodir yr holl destun colledig fel testun annarllenadwy ac felly mae i gyd yn ymddangos fel bylchau llwyd yn y trawsgrifiadau hyn.

Sic

Mewn rhai achosion awgrymwyd darlleniadau ar gyfer testun sy’n ymddangos yn llygredig, neu lle mae’r testun yn anodd ei ddeall oherwydd yr orgraff. Yn yr achosion hyn, ceir seren * las (ar gyfer y llawysgrifau 1300-1350) neu olif (ar gyfer y llawysgrifau 1350-1425) ar ôl y gair, gyda neges a sbardunir trwy rolio’r llygoden drosti yn mynegi’r darlleniad a awgrymwyd. Mewn rhai achosion ni awgrymwyd unrhyw ddarlleniad, er enghraifft, lle mae llythyren neu air yn cael ei ailadrodd, neu lle mae treiglad, neu ddiffyg treiglad, annisgwyl. Sylwer nad pwrpas y gweithgareddau golygyddol hyn yw cywiro’r ysgrifennydd neu awgrymu bod y darlleniad gwreiddiol yn anghywir mewn unrhyw ffordd. Yn hytrach, y pwrpas yw darbwyllo’r defnyddiwr bod y trawsgrifiad yn atgynhyrchu darlleniad annisgwyl cywir sy’n ymddangos yn y llawysgrif.

Marciau paragraff

Defnyddiwyd marciau paragraff gan ysgrifenwyr yn aml er mwyn dangos lle mae testun sy’n dechrau un llinell yn gorffen ar ddiwedd y llinell nesaf yn lle dilyn y drefn arferol. Ymddengys y marciau paragraff hyn yn y trawsgrifiadau fel cromfachau petryal [.

Marciau mewnosod

Defnyddiwyd marciau mewnosod gan ysgrifenwyr yn aml er mwyn dangos lle y dylid gosod testun a ychwanegwyd. Ymddengys y marciau mewnosod hyn yn y trawsgrifiadau fel arwydd y caret ^.

Llenwyddion

Defnyddiwyd llenwyddion addurniadol gan ysgrifenwyr yn aml er mwyn llenwi gofod ar ddiwedd llinellau. Ymddengys y llenwyddion hyn yn y trawsgrifiadau fel arwydd y tild gyda neges a sbardunir trwy rolio drosto gyda’r llygoden yn rhoi disgrifiad o’r math o lenwyd a ddefnyddiwyd. Nodyn: Ni chynhwysir disgrifiadau o lenwyddion yn nhrawsgrifiadau’r llawysgrifau 1300-1350.

Hanes y prosiect

Yn ystod 1999 a 2000 trawsgrifiwyd yr holl ryddiaith Gymraeg o lawysgrifau’r drydedd ganrif ar ddeg (1250-1300) gan Graham Isaac a Simon Rodway. Cyhoeddwyd ffrwyth y prosiect arweiniol hwnnw ar gryno ddisg Rhyddiaith Gymraeg o Lawysgrifau’r 13eg Ganrif ddiwedd 2002. Mae’r deunydd bellach ar gael ar lein yma.

Ym mis Medi 2000 penodwyd y Dr D. Mark Smith yn Gynorthwywr Ymchwil a threuliodd dair blynedd yn estyn y gwaith i’r bedwaredd ganrif ar ddeg gan drawsgrifio’r rhyddiaith o lawysgrifau’r cyfnod 1300-1350. Ariannwyd y cam hwn o’r prosiect gan Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Yn 2004 enillodd Peter Wynn Thomas arian ymchwil gan yr AHRC er mwyn arwain prosiect i drawsgrifio’r holl ryddiaith Gymraeg o lawysgrifau’r cyfnod 1350-1425 a’i hamgodio gan ddefnyddio XML er mwyn ei rhyddhau ar lein. Penodwyd Dr D. Mark Smith a Diana Luft fel Ymchwilwyr ar y prosiect hwn, ac aethant ati i drawsgrifio’r testunau, a olygwyd yn nes ymlaen gan Peter Wynn Thomas. Cynhyrchwyd y trawsgrifiadau gwreiddiol fel ffeiliau testun gan ddefnyddio system o dalfyriadau er mwyn dynodi’r amgodio XML a fyddai’n dilyn. Troswyd y talfyriadau hyn i XML gan ddefnyddio rhaglen a ddatblygwyd gan Dave Kirtland, myfyriwr israddedig yn Ysgol Gwyddoniaeth Cyfrifiadura Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Professor Omer Rana. Addaswyd y rhaglen hon yn nes ymlaen gan Ewen Orme. Cynhyrchwyd delweddau digidol o lawysgrif Amwythig gan Mark Barrett ac Alun Jenkins. Datblygwyd y system amgodio gychwynnol gan Mick van Rootseler. Troswyd y codau yn realiti gan Malcolm Macleod, a datblygwyd y wefan ymhellach gan Chris Veness, a roes iddi ei hwyneb gyhoeddus derfynol. Lee Paton a sicrhaodd sefydlu’r wefan ar un o gyfrifiaduron Prifysgol Caerdydd: mae hefyd yn gyfrifol am gefnogaeth dechnegol gyfredol. Golygwyd y trawsgrifiadau a chynnwys cyffredinol y wefan gan Peter Wynn Thomas, a gyfarwyddodd y prosiect.

Lansiwyd y wefan ym mis Rhagfyr 2007, ac fe’i defnyddid yn helaeth ers hynny. Ceir gwybodaeth ynghylch nifer o ddefnyddwyr y wefan yma. Yn dilyn lansio’r wefan ac ymgynghori gyda defnyddwyr, daeth yn eglur y byddai’n bosibl gwella’r wefan mewn sawl ffordd. Yn 2010 dechreuwyd prosiect a ariannwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd dan arweiniad yr Athro Sioned Daviesi ehangu’r wefan trwy ychwanegu’r trawsgrifiadau o lawysgrifau’r cyfnod 1300-1350 a wnaethpwyd gan y Dr D. Mark Smith rhwng 2000 a 2004, a thrwy wella’r moddion chwilio. Bu Diana Luft yn gyfrifol am amgodio’r deunydd 1300-1350 a’i ychwanegu at y wefan, a Chris Veness wnaeth y gwaith o wella’r moddion chwilio a’r rhestr geiriau yn ogystal â gwedd weledol y wefan. Lansiwyd yr adnodd newydd, Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425 yn [??].

Cyfraniadau

Mae ein diolch yn fawr i’r cydweithwyr canlynol am ganiatáu inni elwa ar eu harbenigedd a’u haelioni wrth inni ddygymod â gwahanol agweddau ar y prosiect. Pleser yw cael cofnodi’n gwerthfawrogiad.

Y Gweithgor

Goruchwyliwyd y prosiect gan weithgor a sefydlwyd gan Bwyllgor Iaith a Llên y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ac a gynhwysai Gareth Bevan, Patrick Donovan, Andrew Hawke, Daniel Huws a Morfudd E. Owen ynghyda’r cynrychiolwyr canlynol o Ysgolion ac Adrannau’r Gymraeg:

Trawsgrifiadau

Copies and images of manuscripts

Cynllunio a Datblygu Gwefan

Materion technegol

Ymgynghori

Golygiadau eraill o destunau Cymraeg:

Gwefannau eraill:

logoI ysgrifydd Llyfr Du Caerfyrddiny mae’r diolch am y logo. Er mai barddoniaeth a ysgrifennodd yn ei lawysgrif, fe’n hudwyd gan ei gelfyddydwaith.