Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 3v

Brut y Brenhinoedd

3v

eu gwaeuwyr hyt eu dyrnneu. ac eu cledyfeu
hyt eu clowynneu a oed diayreb eu cadarn+
het yn ystoria gwyr ruuein. ac yna ymauel
ell deu o|angerd a|milwriaeth corf yn erbyn
corf. ac ual y|teruyna duw pob tynghetuen
y goruu eneas ar turnus ac y|lladawt ef turnus.
ac y kymmyrth gwriogaeth y wyr. ac y gores+
gynawd y holl gyuoeth. ac y kymyrth lauinia
yn wreic bwis idaw. ac y bu yn kyt·wleduchu
a latinus brenhin yr eidial pymp mlyned. ac
yna y bu varw latinus. ac y kymyrth eneas lly+
wodraeth y|dyrnas yn eidaw e|hun. ac a|wna+
eth dinas ac a|y gelwys yn lauinium. ac y beichi+
oges lauinia ac a|gauas mab a elwyd siluius.
ac y gwledychawt eneas en er eidial gwedy
latinus pedeir blyned. A gwedy marw eneas
ac na allei lauinia llywiaw y|dyrnas. ef a|ro+
det siluius ar vaeth ar ascanius y vraud a llywo+
draet y deyrnas ganthaw. yny vythei oedran
ar y mab. ac ef a|garei lauinia yn vwy no
y vam e|hvn. a phob peth o|r a uynnei hi ef a|y
gwnay. ac ef a wnaeth dinas ar avon tybe+
ris ac a|y gelwis y wen hir. ac ef a|beris kyrchu
er ysteuyll a wnathoed y dad ar geu dwyweu
o lauinium hyt y wen hir. ar dwyweu a ym+
chweiliassant hyt yn lauinium drach|eu|keuyn.
ac y peris ascanius eu kyrchu yr eilweith hyt yno.
Ac vn mab a oed y ascanius o|y wreic briawt