Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 38r
Brut y Brenhinoedd
38r
149
gyffroedic adaỽ y ỻys yn|diannot. Ac
ny bu yn|y ỻys neb a aỻei y wahaỽd ka+
nys ofyn oed gantaỽ coỻi yr hynn mỽy+
af a garei o|dim bydaỽl. ac ỽrth hynny
ỻityaỽ a blygu a oruc y brenhin ỽrthaỽ
ac erchi idaỽ ymchoelut y|r ỻys y wneu+
thur iaỽn y|r brenhin o|r sarhaet a|ỽnath+
oed am|adaỽ y ỻys yn agkyfreithaỽl yn
herỽyd y barnei kyfreith y ỻys idaỽ. a
gỽedy nat ufudhaei wrlois idaỽ ỽrth y
orchymyn ỻityaỽ yn vaỽr a|oruc y brenhin.
Ac yn|y lit a|e gyffro tygu yd|anreithei y
gyfoeth yn hoỻaỽl ony delei y wneuthur
iaỽn idaỽ. a heb un gohir a|r racdywede+
dic irỻoned honno yn|parhau yrydunt.
kynuỻaỽ ỻu a|oruc y brenhin a mynet
tu a|chernyỽ. a|dechreu ỻosgi y dinassoed
a|r kestyỻ a|r trefyd. ac ny lafassaỽd gỽr+
lois ymgyfaruot nac ymerbynyeit ac ef
kanys ỻei oed eiryf y wyr aruaỽc noc ef
Ac ỽrth hynny dewissach uu gantaỽ ka+
darnhau y gestyỻ hyt pan gaffei yn+
teu borth o iwerdon. a chanys mỽy oed
y|o·ual a|e bryder am y ỽreic noc amdanaỽ
e|hunan. ac ỽrth hynny ef a|e dodes hi
yg|kasteỻ tindagol yr hỽn a|oed ossode+
dic y myỽn y mor. a hỽnnỽ a|oed dio+
gelaf a|chadarnaf amdiffyn ar y helỽ
ef. ac ynteu e hun a aeth y gasteỻ dim+
lyot. rac damwein eu kaffel eỻ deu y+
gyt. a gỽedy menegi hynny y|r brenhin
kyrchu a|oruc ynteu y kasteỻ yd oed
gỽrlois yndaỽ. ac eisted ỽrthaỽ a gỽar+
chae pob fford o|r y geỻit dyuot aỻan
ohonaỽ. A gỽedy ỻithraỽ yspeit pytheỽ+
nos. koffau a|oruc y brenhin y garyat
ar eigyr. a galỽ attaỽ a|oruc ỽlphin o|r·r+
yt garadaỽc kedymdeith neiỻtuedic
a|chyt·varchaỽc idaỽ. a menegi idaỽ
mal hyn. yn ỻosgi yd|ỽyf. i. o|garyat
eigyr heb ef yn|gymeint ac nat petrus
genyf na aỻaf ochlyt perigyl uyg|korf
ony chaffaf y wreic ỽrth vyg|kygor.
Ac ỽrth hynny heb ef yd archaf itt gygor
o|r hỽnn y gaỻỽyf eilenỽi vy eỽyỻys
rac damwein o dragofeileint vy abaỻu
150
Ac ar hynny y dyỽaỽt ỽlphin. Arglỽ+
yd heb ef pỽy a aỻei rodi kyghor itti.
kanyt oes neb kyfryỽ rym nac ansaỽd
y gaỻem ni vynet ygkylch casteỻ tin+
dagol. kanys yn|y mor y mae gossodedic
ac yn gayedic yn|y gylch o|r mor. ac nat
oes vn fford y gaỻer mynet idaỽ namyn
vn garrec gyfig. a honno try·wyr ar+
uaỽc a eỻynt y chadỽ kyt delei teyrnas
prydein y·gyt a thi. ac eissoes pei myr+
din vard a|ỽnelei y aỻu y·gyt a thi yn
graff ygkylch hynny. mi a dybygỽn
drỽy y gyghor ef y gaỻut ti arueru
o|th damunet ac o|th ewyỻys. a chre+
du a|oruc y brenhin y hynny. a dyfynu
Myrdin attaỽ. kanys yn|y ỻud yd|oed. a
gỽedy dyuot myrdin rac y vron ef. Ef
a|erchis idaỽ rodi kyghor idaỽ drỽy yr
hỽnn y gaỻei kaffel eigyr ỽrth y gygor
a gỽedy gỽybot o·honaỽ meint y go+
feileint a|r pryder a|oed ar y brenhin am
eigyr. Doluryaỽ a|oruc Myrdin rac me ̷+
int karyat y brenhin arnei. a dywedut
ual hynn. O mynny di gaffel dy ewyỻ+
ys ỽrth dy gyghor. reit yỽ itt arueru
o gelfydodeu neỽyd ar ny chlyỽspỽyt
eiryoet y|th|oes ti. Kanys mi a|ỽn o me+
deginyaetheu. i. rodi ytti drych ac an+
saỽd gỽrlois. hyt na bo neb a|ỽypo na
vo ti vo gỽrlois. ac ỽrth hynny o|mynny
ditheu vfudhau y hynny. Minheu a|th
wnaf di yn|y drych a|r wed y mae gỽr+
lois. ac ỽlphin o|ryt garadaỽc yn rith
Jỽrdan o dindagol. a minheu yn drydyd
ygyt a|chỽi a|gymeraf y trydyd ffigur.
Ac veỻy yn|diogel y geỻy vynet y|r kas+
teỻ y mae eigyr yndaỽ. ac vfudhau a|o+
ruc y brenhin o|e hoỻ dihewyt y hynny.
Ac o|r|diwed gorchymyn y ỻu a|oruc y
teulu. ac ymrodi y vedeginyaetheu
Myrdin. a|e symudaỽ yn rith gỽrlois.
a|wnaeth megys y dywedassei. ac ỽl+
phin yn rith iỽrdan. a myrdin yn rith
brithuel. Megys nat oed neb o|r hoỻ
nifer a|e hadnappei megys y|buessynt
gynt. ac odyna kymryt eu|fford a|orugant
« p 37v | p 38v » |