Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 276r
Amlyn ac Amig
276r
1105
wedieu kyfyaỽn. Arch ditheu y gennyf|i o+
blegyt duỽ y amlyn ỻad y deu uab. ac a
gwaet y veibyon dy olchi di. ac ueỻy ti a
geffy iechyt. Ac yna y|dywaỽt amic ỽrth
yr angel. Nyt ef a|wnel duỽ ỻad o|r iarỻ y
veibyon yr iechyt y|m corff i. Ac yna y dyw+
aỽt yr angel. Reit yỽ heb ef wneuthur yr
hynn y mae duỽ yn|y orchymyn. Ac ar hynny
y diflannaỽd yr angel. Amlyn iarỻ hagen a
oed yn clybot yr ymadrodyon megys trỽy y
hun. a|chymryt ovyn maỽr a|wnaeth. a gofyn
y amic pỽy a ry uuassei yn ymdidan ac ef.
Arglwyd heb ef ny bu neb. namyn mi yn
gwediaỽ. ac yn ymbil a|duỽ dros vym|pecho+
deu. Nac ef y·rof a duỽ heb yr iarỻ ef a vu
ryỽ beth yn ymdidan a|thi. ac yn gyflym
kyuodi a|oruc yr iarỻ. y edrych a|daroed y
neb egori yr ystaueỻ. A|gỽedy kaffel yr ys+
taueỻ yn gaeat. Yna yd erchis yr iarỻ idaỽ
yr y gedymdeithyas a|r karyat a|oed y·ryng+
thunt dywedut idaỽ pỽy a vuassei yn
ymdidan ac ef. Ac yna y disgynnaỽd ry+
uerthin o wylaỽ ar amic. a dywedut ỽrth
yr iarỻ yn|y mod hỽnn. arglỽyd heb ef nyt
oes dim anhaỽs gennyf no|e dywedut itt.
kanys os dywedaf itt. mi a|ỽnn na chaf
na charyat na chedymdeithyas y gennyt.
vyth o|hynny aỻan. Dygaf y duỽ vyng
kyffes heb yr iarỻ beth bynnac a|dywet+
tych na|digyaf ỽrthyt mỽy no chynt.
Raphael angel arglỽyd heb ef o·blegyt
duỽ a|doeth attaf y erchi ymi peri itti ỻad
dy deu uab. ac a|gwaet dy veibyon vyng
golchi ynheu. a|dywedut y kaffỽn waret
o|r clevyt yssyd arnaf o|r fford honno. A|gỽe+
dy clybot o|r iarỻ yr ymadraỽd hỽnnỽ.
ỻidiaỽ yn vaỽr a|oruc. a dywedut ỽrth a+
mic. Amic heb ef pan doethost attaf|i drỽy
diruaỽr lewenyd y|th erbynneis. vi a|m
gỽreic a|m niver. ac yr hynny hyt hediỽ.
1106
vyn tylwyth a|m da a|uu gyn|barottet itt ac
y minneu drỽy enryded a pharch a chary+
at. cam a|wnaut ti bot yn gymeint dy
greulonder a|th ennwired di yn glaf gwa+
han ual yd|ỽyt. ac ystyaỽ* drỽy dy gelwyd ke+
issyaỽ ỻad vym meibyon. a|thalu drỽc im
dros vyn da a|m enryded itt. Ac yna trỽy wy+
laỽ y dywaỽt amic. Arglỽyd heb ef. medyly+
a y mae vyng kymeỻ a|wnaethost y|dywe+
dut hynn itt. Ac ỽrth hynny yr duỽ ac yr
dy uoned yd archaf itt na|dickyych ỽrthyf yn
gymeint a|m gyrru o|th lys. o·herwyd na
ỽnn pa le yd af o|m gyrry. ac na cheissaf
vinheu o hediỽ aỻan vyth y|th lys dym am+
gen noc y reidus araỻ. Na yrraf y rof i
a|duỽ heb yr iarỻ tra vych vyỽ kymeint
ac a edeweis i yti mi a|e kywiraf namyn
erchi a|wnaf itt yr y vraỽdoryaeth yspryda+
ỽl yssyd yrom. ac yr y ffyd yssyd itt ỽrth duỽ
dywedut ymi yn di·gelwyd a vu wir dyuot
yr angel attat yn|y mod y dywedy di. Ar+
glỽyd heb·yr amic herwyd ual y|mae gỽir
hynny y kaffỽyf waret gan duỽ y|m hene+
it. ac y|m corff o|r cleuyt hỽnn. Ac yna y
disgynnaỽd wylaỽ ar amlyn a|medyly+
aỽ a|oruc. a|dywedut ỽrthaỽ e|hun ual
hynn. Os y gỽr racco a vu baraỽt y|odef
angheu drossof|i. paham na ladaf|vinheu
vy meibyon yr y garyat ef. Os ef a vu
kynn gywiret a chadỽ ỻỽ ac aruoỻ. a|e vot
yn baraỽt y odef angheu drossof|i. paham
na bydaf inheu kyn|gywiret yn|y gyueir
ynteu. Medylyaỽ heuyt a dylyaf|i y|r
vream benn ffyd kaffel clot tragywyda+
ỽl o achaỽs y gywirdeb a|e vfyỻdaỽt y
lad y vab o arch yr angel. Medylyaỽ he+
uyt a|dylyaf y|mae drỽy ffyd a|chywirdeb
herỽyd y dyweit yr yscruthur lan y kafas
y seint teyrnas nef. Medylyaỽ heuyt a
dylyaf bot duỽ yn|yr yscruthur lan yn dyw+
edut
« p 275v | p 276v » |