NLW MS. 3036 (Mostyn 117) – page 90
Brut y Brenhinoedd
90
1
ac y cudyỽys yn|y ty e|hunan. A guedy na thygyei hyn ̷+
2
ny; y kymyrth y wisc y amdanaỽ e hun Ac yd|ymro+
3
des y merthyrolyaeth trostaỽ gan euelychu crist.
4
y|gỽr a|rodes y eneit tros y deueit. Ac odyna y|deu ỽr
5
ereill trỽy agklywedic poeneu ar eu corfforoed a
6
ellygỽyt y|wlat nef trỽy verthyrolyaeth.
7
AC yna y kyuodes iarll kaer loyỽ yn erbyn as+
8
clepiodotus. A guedy ymlad ac ef y lladaỽd.
9
Ac y kymyrth e|hun coron y teyrnas. A guedy me+
10
negi hynny y sened rufein; llawenhau a|wnaeth+
11
ant o agheu y brenhin a gynhyruyssei eu harglỽ+
12
ydiaeth. A guedy dỽyn ar gof onadunt eu collet
13
er pan gollassant arglỽydiaeth ynys prydein. Sef
14
a wnaethant anuon Constans senadur. y|gỽr a
15
orescenyssei yr yspaen ỽrth rufein. Gỽr doeth gleỽ
16
oed hỽnnỽ. A gỽr a lafuryei yn uỽy no neb
17
y|achwanegu kyffredin arglỽydiaeth rufein. A ph+
18
an gigleu goel brenhin y brytanyeit bot y|gỽr hỽn+
19
nỽ yn dyuot ynys prydein. ofynhau a oruc ymlad
20
ac ef. can clyỽssei nat oed neb a allei gỽrthỽynebu
21
idaỽ. Ac ỽrth hynny pan doeth Constans y|r tir. sef
22
a|wnaeth coel anuon attaỽ y erchi tagnefed. Ac y
23
gynnic darystygedigaeth idaỽ o ynys prydein gan
24
adu y|goel y vrenhinyaeth. A thalu y|gnotaedic te+
25
yrnget. y|wyr rufein. A guedy datganu hynny y
26
constans. y|rodes tagnefed udunt. Ac y kymyrth
27
gỽystlon y gan y brytanyeit ar hynny. A chyn pen
« p 89 | p 91 » |