BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 7v
Brut y Brenhinoedd
7v
A gwedy bod eu kyfreidieu yn barawt kyr+
chu y llongheu a orugant ac ignogen gyd
ac wynt hep allel o nep y gostegu o dryc yruer
ac wylaw yny doeth y geuyn gweilgi hyt na
welei hi yr tir. ac yna y ssyrthiawt marw hun
arnei o tra blinder a|chysgu. Sef riuedi llong+
heu a aeth ganthunt o roec. pedeir llong ar u+
geint a|thrychant. yn llawn o|wyr ac arueu a
meirch. ac eur ac aryan. a gwin a gwenith. ac y
doythant hyt yn lygesti ynys diffeith oed hon+
no ac a uuassei gyuanned gynt. ac yno yd aeth
llawer onadunt yr tir y edrych ansawd y tir
ac y hely canys amyl oed coydid a foresteu a
gwydlydnot yndunt. ac yno y cafsant hen
demyl ry daruoed y aberthu gynt y diana dwy+
wes. ac yn dyuot tu ar llongheu y lladassant
ewic wen a|y dwyn yn anrec y brutus. a menegi
idaw ansawd y tir. ac erchi idaw mynet y of+
frymhu yr dwyweu kyn mynet pellach hynn
Ac yna y kymyrth brutus gyd ac ef gerio dew
a deudengwyr o hynafgwyr ac a oed reid yr of+
frvm. a gwedy eu dyuot yr demyl troi coron
o lawrwyden yg kyllch y ben rac bron drws y dem+
myl mal y gnottheit o hen deuawt. a chynneu
teir kynneu o·dan yr tri duw. nyd amgen y iubi
curius. a diana. ac y bob vn onadunt y gwnaeth
aberth gwahanredawl. ac yna y kymyrth brutus
llestyr yr aberth yn|y llaw deheu idaw yn llawn o
win a gwaet o|r ewic wen. a dyrchauel y wyneb
« p 7r | p 8r » |