BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 161v
Brenhinoedd y Saeson
161v
a rodassei Rys ap Grufud idaw. yntev a|y rodes yv vraut
dros y wystlon. Ac y gwnaethpwyt yr eilweith castell Ray+
adyr|gwy. Ac y dalpwyt Rys y gan y veibion ac y carcharwit
a howel seis o dwyll ar Maelgwn y vraut. a ellyngawd Rys
y dat o garchar. Ac y kymyrth mebion Catwallawn castell
de Nyuer yr hwn a oed eidiaw Maelgwn a chastell Rayadyr
gwy ac a|y llosgassant. Ac y doeth Richart vrenhin y loegyr
o gaerusalem. llywelyn ap Jorwerth a deu vab kynan Rodri ac
Owein a dugant kyvoeth dauid ap Owein y arnaw onyt tri
chastel a|y gymhell yntev ar fo. Anno.vo. y doeth Rosser y
mortimer a llu ganthaw hyt yn maylenyd ac y gwrthlad+
wyt deu vab Catwallawn o gastell kymaron. Ac y cafas
deu vab Rys ap Grufud. Rys a Maredud. castell dinefwr
o dwyll a chastell y cantref bychan. a gwyr y wlat honno a
gytsynawt ac wynt. ac y delhijs ev tat wynt o dwill ac yn ys+
trat Meuric y carcharwit wynt. Anno.vio. y bu varw esgop
bangor. Ac y kynvllaut Rys ap Grufud llu am ben caer mer+
dyn ac a|y llosgas ac a|y diffeithawd. Ac odyno y doeth a llu dir+
vaur am ben castell Collvnwy. ac eiste wrthaw ac ev kymell
ev rodi. a gwedy y rodi y llosgi a|y distriw a orugant. ac
odena y bryssiassant hyt yn Radynor ac a|y llosgassant. ar
dyd hwnnw y doeth Rosser Mortimer. a hvgyn o say. a|llu
diruavr o wyr arvauc ymladgar yn ev bydynev yn ba+
rawt y ymlad. A gwedy gvelet o Rys hynny; kyrchu y ely+
nyon a oruc megys llew ac ev kymhell ar|ffo ac ev hym+
lit yn wraul ac ev seythu gan ev llad yn olofrud. ac ny
orfwisavd yny doeth hyt yn chastell paen yn Eluael ac
yna eiste wrth y castell a gwneithur ermygyon y ymlad
ar castell. Ac y doeth Willyam brewys ac y tagnavedwyt
ac ef. yn|y vlwydyn honno y doeth henri archescop keint
vstus holl loegyr a chynvllaw tywyssogeon kymre y dy+
vot am|ben castell wenhwynwyn yn|y trallwng ac ymlad
ac ef o bop amriw ymladev. ac ny thygyawd ydunt dym.
« p 161r | p 162r » |