Cardiff MS. 1.362 (Hafod 1) – page 41r
Brut y Brenhinoedd
41r
ar gynan meiriadaỽc.
A Gỽedy clybot o gracian rodgymryt ry|lad maxen
yn rufein. Kymryt a oruc ynteu vrenhinyaeth
ynys prydein. A gỽedy y uot yn vrenhin. kymeint
vu eu creulonder yn|y arglỽydiaeth. hyt pan vu
reit yr brytanyeit o|r diwed y lad. am y greulonder.
A phan gigleu y racdywededigyon elynyon uchot
a|ffoassynt y iwerdon ry|lad gracian. Kynnullaỽ a
wnaethant ỽynteu y gỽydyl ar yscotteit ar den+
marcwyr ar llechlynwyr y gyt ac ỽynt. A|dyuot
hyt ynys prydein. a|e hanreithaỽ o tan a hayarn
o|r mor y gilyd. Ac ỽrth hynny anuon llethyreu
a|wnaeth y brytanyeit hyt yn rufein. A dagre+
uaỽl gỽynuan yndunt gan adaỽ tragywydaỽl
darystygedigaeth udunt yr gollỽg canhorthỽy
udunt. Ac yna yd anuonet o wyr aruaỽc at+
tadunt. A gỽedy eu dyuot hyt yn ynys pryde+
in. Ac ymlad ar gelynyon ac eu dehol o holl ter+
uyneu ynys prydein. Ac eu gỽrthlad o gỽbyl. A
rythau y bopyl lesc. Ac yr gỽrthlad gelynyon
yd archassei Seuerus amheraỽdyr gynt wneuthur
mur rỽg deiuyr ar alban o|r mor y gilyd. kanys
yr alban y gnotaei pop gormes o|r a delhei y ynys
prydein dyuot yn gyntaf. Ac yna eilweith y
kaussant yn eu kyffredin gyghor attnewydhau y
mur hỽnnỽ. a|e wneuthur yn gỽbyl o|r mor y gilyd.
A gỽedy daruot cuplau y gỽeith hỽnnỽ y
menegis gỽyr rufein yr brytanyeit hyt
na ellynt ỽy kymryt llafur ac aneiryf o treul.
« p 40v | p 41v » |