Breudwd Welsh Prose 1300-1425
Cymraeg

BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 38v

Brut y Brenhinoedd

38v

o newyn. A gwedy ev bod uelly deu·dyd a dwy nos
heb na bwyt na diaut. gwelet o gaswallaun nat
oed ford y dyuot odyno onyd trwy angheu creu+
lon. nev varw o newyn. Anvon a oruc ar aua+
rwy y nei. y ervyn idau gwneithur y dagneued
ac vlkessar. Ac yna anryuedu yn vaur a oruc
auarwy am hynny. a dywedut. pan yw ryued
oed yr gwr. a vydei oen yn ryuel. a llew yn he+
dwch dryc anyanu wrth neb. Ac eyswys ef a
doeth ar vlkessar a dywedud wrthau val hyn.
Arglwyd heb ef my a edeweis ytti darystyng+
hedigaeth o ynys brydein. A llyma hynny ytti
arglwyd. gan gadel y gaswallaun y urenhini+
aeth ev gynal yn·danat titheu. drwy rodi pob
blwydyn teyrnget y sened ruuein. A gwedy
gwarandau o vlkessar; gwrthwyneb oed gan+
thau hynny. A gwedy gwelet o auarwy hynny.
dywedut a oruc wrthau. arglwyd heb ef kyd ad+
dawn ytti darystynghedigaeth ynys brydein. nyd
edeweys i ytti distriw vy|nghenedyl nac ev diua.
ac ny wnaethant o drwc ar ny allwynt y dywy+
gu. Ar hynn a edeweys ytti llymma hynny os
mynny. ony|s mynny; ny chytssynnaf|i a distriw
vy|nghenedil nac ev diva. A gwedy gweled o vl+
kessar atteb auarwy; drwy y gynghor ynteu ro+
di a oruc ef dagneued y gaswallaun. drwy rodi
o gaswallaun o ynys brydein pob blwydyn teir
mil o bvnnoed o aryant. yn deyrnged y ssened
ruuein. A gwedy cadarnhau yr amodeu hynny