Cardiff MS. 1.362 (Hafod 1) – page 18v
Brut y Brenhinoedd
18v
getymdeithas yn vaỽr. ny bu anhaỽd gantunt dares+
tỽg o|e ỽryogyaeth. A gỽedy tynnu paỽb yn vn ve+
dỽl ac ef. medylyaỽ a oruc dial ar veli y vraỽt y
saraet. Ac yna heb annot trỽy gyghor y wyrda.
kygreiraỽ a|oruc a thywyssogyon ffreinc. val y
kaffei yn hedỽch kerdet trvy ffreinc. a|e lu hyt
y traeth fflandras y lle yd oed y llogeu yn paraỽt.
A gỽedy eu dyuot yno yd hỽlyassant hyt yn ynys
prydein. A phan doeth y chedyl* ar veli. Kynullaỽ
a oruc ynteu ieuenctit a deỽred ynys prydein yn
erbyn bran a|e lyghes. A phan welas tanwen mam
y gỽeissyon y bydinoed yn paraỽt. Ac yn chỽan+
haỽc y ymgyuaruot. bryssyaỽ a oruc hitheu trỽy
ergrynedigyon gameu hyt yn lle yd oed vran
mab a oed damunedic genthi y welet. A noethi y
dỽy vron trỽy dagreu a* icuon. Ac erchi idaỽ ef cof+
fau pan yỽ yn|y challon hi y creỽyt ef yn dyn o
peth nyt oed dim. Ac erchi y charedic vab coffau
y poen ar gouyt a gaỽssei yn|y ymdỽyn naỽ mis
yn|y challon. A chan hynny erchi idav madeu y
vraỽt y llit ar bar a oed gantaỽ ỽrthaỽ. kany
wnathoed y vraỽt idaỽ ef deufnyd* llit. kanyt
beli a|e deholassei ef o ynys prydein. mayn* y ga+
mwed. a|e aghymendaỽt e|hun. pan duc brenhin
llychylyn am pen y vraỽt y geissaỽ y digyuoethi.
Ac ar hynny. sef a oruc bran hedychu ac ufydau
y vam. A bỽrỽ y arueu y ỽrthaỽ. A dyuot hyt
ar y vraỽt. A phan welas beli y vraỽt y dyuot
attaỽ trỽy arỽyd tagnefyd. diot y arueu a oruc
« p 18r | p 19r » |