BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 61v
Brut y Brenhinoedd
61v
pymp frwt y rydec. Ac an ab y lleian y gelwit y mab
kyn no hynny. Ac o hynny allan y dodet arnaw merdyn.
o achos y gaffael yng|kaer vyrdyn. A gwedy dillwng
y llyn yny gat y gist vaen a dywetpwyt vchot. y brenhin
a vynnei gwelet peth oed yn|y gist vaen. Ac yno yd e+
goret y gist vaen. prophwidoliaeth merdyn emreis.
Gortheyrn gortheni yn eisteu ar lan y llynn gwe+
hynniedic. y kyuodassant dwy dreic; vn wen ac
vn coch. ac ymlat girat y·ryngthunt. A gyrru o|r dreic
wen y coch y eithauioed y llynn. Ar dreic coch gwedy
y doluriaw a yrrawt y wenn dracheuyn. A gwedy gwe+
let o Gorthern hynny; govyn a wnaeth y verdyn peth
a arwidockae hynny. Ymdorri o wylaw a oruc a galw y yspryt attav.
a dywedut o brophwydoliaeth. Gwae hi y dreic coch canys
y haball yssyt yn bryssiaw. E gogoueu a achub y dreic
wenn er honn a arwydockaa y saisson; E dreic coch
a arwydockaa y bryttannyeit; yr honn a gyuerssengir
y gan y wenn. Wrth hynny y|mynydet a|wastattehir val
y glynneu; ac auonyd y glynneu a|lithrant o waet.
Diwyll y gristonogaeth a|dilyir; a chwymp yr eglwis+
seu a ymdewynnic. En|y diwed y ragrymhaa y gy+
uarssangedic; ac y diwalder yr ystronnyon y gwrth+
neppa. Canys baed kernyw a ryd cannorthwy; a my+
nygleu yr ystronnyon a|sathyr a·dan y drayd. Enys+
soed yr eigiawn a darystynghant idaw; a gwladoed
freinc a ved. Ty ruvein a houynhaa y diwalder ef.
a|y diwed a vyd pedrus. Engeneu y bobil yd anryde+
dir; a|y weithredoed a vyd bwyt yr a|y datkano. Cwech
gwedy ef a ymlynant y deyrn·wialen; a gwedy wyntev
« p 61r | p 62r » |