Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425
English

Dyfeisiadau ysgrifyddol

Defnyddiai ysgrifwyr yr oesoedd canol sawl dyfais nas arferir mwyach. Yn llawysgrifau’r prosiect cafwyd:

Cysylltnodau

Pan ddeuai i ddiwedd llinell, gallai ysgrifydd ychwanegu llinell fer sy’n ymdebygu i gysylltnod y cyfnod diweddar. Weithiau byddai dwy linell i’r 'cysylltnod', heb fod yn annhebyg i’n hafalnod ni. Mae’r naill arwydd a’r llall yn tueddu i godi o’r chwith i’r dde.

Amgodiwyd y ddau 'gysylltnod' hyn ’r elfen <hyphen>. Cyfleir y ffurf ddwbl ’r priodoledd rend, e.e.

<hyphen />
<hyphen rend="double" />

O safbwynt ieithyddol diweddar, gellir defnyddio’r arwyddion hyn yn yr un modd ’n cysyltnod ni, sef pan rennir gair dros ddwy linell. Er enghraifft, gallai#&146;r gair brenhin gael ei rannu fel a ganlyn:

... bren-
hin ...

Amgodiwyd enghraifft o’r fath fel hyn:

... bren <hyphen />
hin...

Ond gellid defnyddio’r nodau hyn hefyd pan fyddai gair yn gyflawn ar linell a heb ei rannu. Er enghraifft, gallem gael:

... brenhin-

Addurniadau diwedd llinell

Gallai ysgrifwyr canoloesol lenwi gofod ar ddiewdd llinell nifer o wahanol fathau o addurniadau. <filler /> sy’n cofnodi’r rhain.

Mae’r priodoledd rend yn cyfleu’r math o addurn, y lliw, a’r rhuddellu, e.e.

type colour rubric

Nodau paragraffau

Defnyddir y tag <paragraphmark /> i amgodio nodau sydd fel pe baent yn dynodi ffiniau rhannau penodol o’r testun. Cyfleir lliw’r arwydd ’r priodoledd rend.

Enghreifftiau yw:

<paragraphmark rend="red"/>
<paragraphmark rend="rubric"/>
yn l i frig y ddalen

Nodau ychwanegu

Gallai ysgrifydd sylweddoli iddo anghofio cynnwys rhywbeth; y pryd hynny gallai ddynodi safle’r testun coll nod ychwanegu.

Amgodir nod ychwanegu gan yr elfen <insertionmark />.

Cyfleir ffurf y nod gan y priodoledd rend, e.e.

<insertionmark rend="cross" />