Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425
English

Nodweddion strwythurol pob llawysgrif

Amgodiwyd y chwe nodwedd strwythurol ganlynol:

Llawysgrif

Amgaeir y trawsgrifiad o bob llawysgrif rhwng y tagiau <manuscript> a </manuscript>.

Ceir dau briodoledd yn y tag agoriadol: id a name:

Tag agoriadol llawysgrif Peniarth 4, er enghraifft, yw:

<manuscript id="P4" name="Peniarth 4">
Yn ôl i frig y dudalen

Tudalen

Amgodiwyd cynnwys tudalen neu ffolio mewn llawysgrif rhwng y tagiau <page> a </page>.

Er mwyn i’r rhaglen gael trafod y data, mae angen rhif unigryw ar bob tudalen. Yn ystod eu gyrfa, fodd bynnag, cafodd tudalennau rhai llawysgrifau eu hailrifo, rai ohonynt droeon. Cafodd eraill eu camrifo. Cofnodir hanes rhifo tudalennau pob llawysgrif yn y ffeil flaen.

Fel rheol rhifir tudalennau yn olynol, gan ddechrau ag 1, 2, 3, ac yn y blaen. Amgodir y rhifau hyn yn nhag agoriadol <page> â#&146;r priodoledd n. Tag tudalen gyntaf nodweddiadol yw:

<page n="1">

Mae’n arferol i ffolios gael eu rhifo’n olynol hefyd, gan ddechrau ag 1r, 1v, 2r, 2v, ac yn y blaen. (Y confensiwn yma yw bod ‘r’ yn cynrychioli ‘recto’, a ‘v’ yn sefyll am ‘verso’.) Fel gyda thudalennau, cyfleir rhifo o’r fath â’r priodoledd n, e.e.

<page n="1r">
Yn ôl i frig y dudalen

Colofn

Ysgrifennwyd testunau rhai llawysgrifau mewn dwy golofn. Mewn achosion o’r fath, dynodir ffiniau colfon gan y tagiau <col> a </col>. Mae i bob tag agoriadol un priodoledd, sef:

Rhifwyd colofnau rhai llawysgrifau gan rywun arall.Mewn achosion o’r fath mabwysiadwyd y rhifau hynny yn y golygiadau presennol.

Ni rifwyd colofnau llawysgrifau eraill. Mewn achosion o’r fath rhifwyd y colofnau yn olynol gan ddechrau ag 1.

Tag agoriadol y golofn gyntaf mewn llawysgrif yw:

<col n="1">
Yn ôl i frig y dudalen

Llinell

Torrir llinellau yn y golygiadau presennol yn yr un mannau ag yn y llawysgrifau.

Ni rifir llinellau yn y llawysgrifau. Fodd bynnag, er mwyn adnabod pob llinell ar dudalen (neu bob llinell mewn colofn os rhennir y dudalen yn golofnau), rhifwyd pob llinell, gan ddechrau ag 1. Bydd rhifau llinellau yn dechrau o’r newydd ar bob tudalen (neu golofn).

Tag llinell nodweddiadol yw:

<line n="1">

Mae llinellau’r llawysgrifau yn tueddu i ddechrau ar yr ochr chwith i’r ddalen. Weithiau, fodd bynnag, ceir bod llinell wedi ei hysgrifennu tua chanol tudalen neu golofn, neu i’r dde. Cofnodir safle llinellau o’r fath gan y priodoledd align attribute. Er enghraifft:

<line n="23" align="right">
<line n="34" align="center">

Mewn achosion prin iawn ystyriwyd ei bod yn ofynnol cofnodi bod llinell wedi ei hunioni tua’r chwith. Gwnaethpwyd hynny drwy nodi align="left".

Gadawyd ambell linell yn wag heb ysgrifennu arni. Gan fod llinellau o’r fath yn strwythurol arwyddocaol, fe’u tagiwyd hwythau a’u rhifo.

Geiriau

Mae gan bob gair yn y corff gyfeiriad unigryw. Cyflawnwyd hyn drwy briodoli rhif unigrwy i bob gair ar bob llinell. Bydd y rhifo yn ailddechrau ar bob llinell. Amgodiwyd y rhif gan y priodoledd n, e.e.

<w n="1">ty</w>

Yn ogystal â’i rif, gall fod i air (<w>) bedwar priodoledd pellach:

Os ysgrifennwyd gair mewn inc coch, bydd i rend y gwerth: "red", e.e.

<w n="1" rend="red">judas</w>

Amgodiwyd la â’r codau ISO safonol:

Er enghraifft:

<w n="1" lang="la">filius</w>

Arfer cyffredin yn yr oesoedd canol oedd ysgrifennu dechrau gair ar un llinell a’i diwedd ar y nesaf. Er enghraifft, gellid ysgrifennu brenhin fel a ganlyn:

... bren
hin ...

Mae’r gwerthoedd "begin" ac "end" yn y priodoledd type yn arwyddo bod y ddwy sillaf yn perthyn i’r un gair:

... <w n="25" type="begin">bren</w>
<w n="1" type="end">hin</w>

Nid oes fawr annisgwyl yn yr enghraifft uchod: yn syml iawn, mae’r gair ieithyddol brenhin wedi ei rannu dros ddwy linell. Weithiau, fodd bynnagg, gall fod cymhlethdodau pellach i amgodio’r ddwy ran i air a rannwyd dros ddwy linell.

Yn yr enghraifft ganlynol, nid brenhin yn unig a rannwyd: mae gwlad hefyd wedi ei drychu:

... bren
... gwl ... hin
ad ...

Yn yr enghraifft hon, hin yw ail hanner y gair brenhin, ac ad yw ail hanner y gair gwlad. Er mwyn i hanerau cyntaf ac ail y naill air a’r llall gael eu priodi ’i gilydd, amgodiwyd trefn (order) elfennau’r gair cyntaf ’r priodoledd irregular:

<w type="begin" order="irregular">bren</w>
<w type="begin">gwl</w>
<w type="end" order="irregular">hin</w>
<w type="end">ad<w>
Yn ôl i frig y dudalen
Nodyn ar rannu geiriau

Nid anarferol yn y cyfnod canol oedd i air ieithyddol gael ei rannu. Er enghraifft, gall y brenhin disgwyliedig gael ei ysgrifennu â bwlch yn ei ganol: bre nhin. Er bod ynddo fwlch, amgodiwyd achos o’r fath yn un gair ieithyddol:

<w>bre nhin</w>

Gellid bod wedi trafod y sefyllfa hon yn wahanol. Pe baem, er enghraifft, wedi gallu lemateiddio’r corff, gallem fod wedi rhoi’r flaenoriaeth i’r gair orgraffyddol ac amgodio, dyweder:

<lemma="brenin"><w>bre</w><w>nhin</w></lemma>

Ond cyfyd llu o ysytiraethau eraill wrth lemateiddio ac nid oedd gwneud hynny yn rhan o’r prosiect presennol. Yr oedd, fodd bynnag, yn ddymuniad gennym gynhyrchu rhestrau geiriau ar gyfer y corff, ac fe ganiatâi’r codio <w>bre nhin</w> inni gyflawni hynny. Cedwir y bwlch yn y rhestr eiriau ac yn y golygiad. Yn y golygiad, gall y defnyddiwr ddewis llenwi’r bwlch ag ebychnod os myn.

Mae’n ddigon posibl mai canlyniad i godi ei bin ysgrifennu o’r ysgrifydd yw’r bylchau a geir mewn rhai olyniadau fel bre nhin. Y mae hefyd yn eglur nad yw bylchau rhwng geiriau i gyd o’r un faint: yn wir, gellid ystyried mai ‘hanner bylchau’ yw rhai ohonynt. Er hynny, digon cyffredin yw ysgrifennu’r hyn y byddem ni yn ei ystyried un ddau air yn un uned orgraffyddol. Ceir hyn amlaf pan fydd gair proclitig – gair gramadegol diacen – fel rhagenw meddiannol, yn rhagflaenu enw, neu pan fydd rhagenw perthynol yn rhagflaenu berf. Nid yn afresymol, ysgrifennir y ddau air yn un. Enghreifftiau yw vympenn ac aweleis.

Pe na baem yn dymuno gwneud mwy na chynrcyhioli ffurf yr hyn sydd yn y llawysgrifau, ni fyddai ffenomen y geiriau proclitig wedi teilyngu ystyriaeth: gellid bod wedi amgodio vympenn ac aweleis yn syml fel a ganlyn:

<w>vympenn</w>
<w>aweleis</w>

Ond yr oeddem am gynhyrchu rhestrau geiriau ystyrlon a defnyddiol hefyd, ac yn dymuno arddu’r maes ar gyfer lemateiddio. Er mwyn gwneud hynny, yr oedd angen gwahanu’r ddwy elfen mewn olyniadau fel yr uchod. Gwnaethpwyd hyn â’r tag <nospace/> tag. Swyddogaeth <nospace/> yw rhannu dwy uned ieithyddol wahanol er nad oes bwlch rhyngddynt yn y ffynhonnell. Er enghraifft, amgodiwyd vympenn and aweleis fel a ganlyn:

<w>vym<nospace/>penn</w>
<w>a<nospace/>weleis</w>

O bryd i’w gilydd ceir bod tair elfen eirfaol wedi eu hysgrifennu’n un, e.e. Ympaffuryf. Rhennir y geiriau mewn olyniadau o’r fath hwythau â <nospace/>:

<w>Ym<nospace/>pa<nospace/>ffuryf</w>

Y mae hefyd enghreifftiau lle y mae’r ysgrifydd wedi dilyn ei glust ac wedi uno dau air. Gwahanwyd geiriau o’r fath yn y trawsgrifiad a dynodi ffurf darged yr ail air â <sic>. Yn Peniarth 5, er enghraifft, mae gennym ychynt, cynnyrch cywasgu ych a hynt yn un uned orgraffydol. Rhannwyd yr elfennau wrth amgodio:

<w>ych<nospace/><sic: hynt>ynt</sic></w>

Gobeithir y bydd y strategaeth amgodio hon hefyd yn gymorth i’r newyddian i Gymraeg y cyfnod canol, a allai fel arall dreulio oriau yn chwilio geiriaduron am eiriau nad ydynt yn bod.

Yn ôl i frig y dudalen

Llythrennau

Mae ffurf a lliw du y rhan fwyaf o’r llythrennau mor gyson fel nad oes angen eu tagio. Er hynny, mae ym mhob llawysgrif rai llythrennau arbennig y mae angen eu hamgodio. Mae gennym, er enghraifft, brif lythrennau mawr, llythrennau addurnedig, a rhai wedi eu rhuddellu.

Amgodiwyd llythrennau ac iddynt briodoleddau arbennig rhwng tagiau <c> ac </c>. Cofnodir eu priodoleddau hynod â thri phriodoledd:

Gwerthoedd arferol rend yw "red" neu "rubric". Er enghraifft, ped ysgrifennid llythren gyntaf hywel ag inc coch, neu pe bai wedi ei ruddellu, fe’i hamgodid fel a ganlynl:

<w><c rend="red">h</c>ywel</w>
neu
<w><c rend="rubric">h</c>ywel</w>

Mae type yn cofnodi nifer o briodoleddau. Gall fod iddo’r gwerthoedd canlynol:

Enghreifftiau:

<w><c type="initial">H</c>ywel</w>
<c type="ligature">ll</c>
<w>g<c type="6">w</c>r</w>
<c type="medial">a</c>

Pan geir priflythyren fawr ar ddechrau llinell, nid anghyffredin iddi ymestyn dros sawl llinell. Bydd gwerth y priodoledd linespan yn cyfleu nifer y llinellau, e.e.

<w><c type="initial" linespan="3">H</c>ywel</w>
Yn ôl i frig y dudalen