Breudwd Welsh Prose 1350-1425
English

Nodweddion problematig

Gan mai hen ddogfennau yw llawysgrifau, nid hawdd darllen rhannau o rai ohonynt a bydd rhannau eraill yn annarllenadwy. Trafodir amgodio rhannau o’r fath yma.

Y tagiau a ddefnyddiwyd i amgodio nodweddion problematig yw:


Testun aneglur


Weithiau ni ellir darllen llythyren, gair, ymadrodd, neu ddarn hwy gydag unrhyw sicrwydd. Amgodiwyd testun o’r fath â’r tag <unclear>.

Gall testun "aneglur" fod yn gynnyrch un o’r prosesau canlynol:


Cofnodir y tair proses hyn yn y priodoledd reason.

Mae’r olyniadau canlynol yn enghreifftio’r tag <unclear>:

<w><unclear reason="faint">a</unclear>ual</w>
<w><unclear reason="retraced">a</unclear>ual</w>
<w><unclear reason="correction">a</unclear>ual</w>

Difrod

Un o brofiadau lleiaf dymunol trawsgrifydd yw gorfod cydnabod na all ddarllen rhywbeth yn ei lawysgrif: cymaint yw’r difrod i’r testun fel na ellir darllen dim. Un o’r rhesymau dros ddifrod o’r fath yw bod twll yn y llawysgrif. Cynnyrch defnyddio a threulio’r llawysgrif dros yr oesoedd fydd ambell dwll; cynnyrch llygoden fydd un arall. Ond yr oedd rhai tyllau’n bresennol pan ddechreuodd yr ysgrifydd ar ei waith.

Yn ein barn ni, mae’r gwahaniaeth rhwng twll naturiol ac un a ddatblygodd ar ôl ysgrifennu’r testun yn ddigon pwysig i hawlio tagiau gwahanol: gall gwybodaeth gael ei cholli os bu difrod ar ôl ysgrifennu’r testun, ond ni chollir dim os oedd y difrod yno o’r cyntaf. Yr ydym, fodd bynnag, wedi cydymffurfio â chanllawiau’r TEI ac wedi amgodio’'r ddau bosibilrwydd â’r tag hollgynhwysfawr <damage />.

Cawsom fod tri math o ddifrod; amgodiwyd y rhain â’r priodoledd type:

Yn y trawsgrifiadau, felly, bydd tagiau <damage /> yn ymbatrymu fel a ganlyn:

<damage type="natural hole" />
<damage type="unnatural hole" />
<damage type="cropped" />

Mae canllawiau’r TEI yn caniatáu disgrifio eraill o briodoleddau man a ddifrodwyd, megis ei faint neu’r sawl a fu’n gyfrifol amdano. Yr oedd maint man a ddifrodwyd o ddiddordeb penodol inni a gallesid cofnodi hynny â’r priodoledd extent. Fodd bynnag, byddai mesur gofodau yn ofalus wedi bod yn rhy gostus o ran amser a byddai hefyd wedi amharu ar ein prif nod, sef trawsgrifio’r testunau. Penderfynwyd, felly, y byddem yn gwaddoli’r dasg hon i’r sawl a ddaw ar ein hôl.

Bylchau

Mae <gap /> yn arwyddo man y bu’n rhaid inni hepgor deunyddiau ohono oherwydd bod y testun yn annarllenadwy.

Fel gyda <damage />, mae canllawiau’r TEI yn rhestru sawl priodoledd y gellir eu defnyddio yng nghyd-destun <gap />. Ond fel yn achos <damage />, penderfynasom mai’r ffordd orau inni fynd i’r afael â’n tasg bresennol oedd hepgor y manylion fel y gallem ganolbwyntio ar drawsgrifio.

Gofod

O bryd i’w gilydd ceir bod ysgrifydd wedi gadael cryn fwlch mewn testun. Y rheswm tebycaf dros hyn yw pan fydd ysgrifydd wedi gadael bwlch y mae’n eglur ei fod wedi ei fwriadu ar gyfer priflythyren addurnedig nas ychwanegwyd yn y pen draw. Dynodir gofod ‘arwyddocaol’ o’r fath gan <space/>.

Er enghraifft:

<w><space />ri</w><w>gwr</w><w>doeth</w>

Testun a gyflenwyd

Bydd <damage> fel rheol a <gap> bob amser yn amgodio rhannau o lawysgrif sydd naill ai wedi diflannu neu wedi mynd yn annarllenadwy. Ond nid yw difrod bob amser yn ymhlygu colli geiriau. O gymharu testunau tebyg â’i gilydd, gellir bod yn weddol sicr weithiau o’r hyn a gollwyd. Dynodir testun o’r fath â geiriau rhwng tagiau <supplied>.

Mae’r priodoledd reason yn dangos pam y bu’n rhaid wrth gyflenwi:

Dwy enghraifft nodweddiadol fyddai:

<w><supplied reason="illegible">y</supplied></w>
<w><supplied reason="binding">y</supplied></w>

Fel rheol bydd testun a gyflenwyd yn gynnyrch cytuno ymhlith aelodau o’r tîm ond nid ydym wedi ‘hawlio’ ychwanegiadau o’r fath drwy ychwanegu’n henwau atynt. Weithiau, fodd bynnag, bydd testun a gyflenwyd yn gynnyrch ymchwilydd blaenorol. Dynodir tarddiad ychwanegiadau o’r fath gan y priodoledd resp. Yn llawysgrif Peniarth 46, er enghraifft, mae‘r priodoledd resp yn cofnodi mai J. Gwenogvryn Evans a gyflenwodd y testun:

<w><supplied reason="illegible" resp="Gwenogvryn">y</supplied></w>