Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425
English

Cyd-destun y prosiect presennol

Y pedwerydd cam mewn prosiect a fu ar y gweill ers 1999 yw’r wefan hon. Olrheinir y tri cham cyntaf isod.

Y cam cyntaf

Yn ystod 1999 a 2000 sefydlwyd methodoleg drawsgrifio a chopïwyd nifer o lawysgrifau o’r drydedd ganrif ar ddeg gan Graham Isaac a Simon Rodway. Cyhoeddwyd ffrwyth y prosiect arweiniol hwnnw ar gryno ddisg Rhyddiaith Gymraeg o Lawysgrifau’r 13eg Ganrif ddiwedd 2002.

Yr ail gam

Ym mis Medi 2000 penodwyd y Dr D. Mark Smith yn Gynorthwywr Ymchwil a threuliodd dair blynedd yn estyn y gwaith i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ffrwyth y cyfnod hwnnw yw’r testunau ar chwaer wefan yr un bresennol, sydd i’w chyhoeddi yn y man.

Y trydydd cam

Trawsgrifio’r testunau oedd prif ffocws y cam cyntaf a’r ail. Mewn ffeiliau Microsoft Word cyffredin y cofnodwyd y data. Rhwng mis Hydref 2003 a mis Mai 2004, fodd bynnag, gweithiwyd ar gynllun mwy uchelgeisiol, sef addasu’r ffeiliau gwreiddiol fel y byddent yn cydymffurfio â safonau amgodio cydwladol. Y nod oedd tagio’r testunau ar lefel y dudalen neu’r ffolio, y golofn, y llinell, a’r gair.

I’n cynorthwyo i gyflawni’r nod hwnnw cyflogwyd arbenigwr ar dechnoleg gwybodaeth, sef Mick van Rootseler, i’n cynghori ynglŷn â’r amgodio ac i lunio meddalwedd a fyddai’n arddangos y testunau ar wefan. Buom yn ffodus hefyd i gael cymorth parod y Dr Diana Luft, a ysgwyddodd y rhan fwyaf o’r baich amgodio. Yr Athro Peter Wynn Thomas a fu'n cyfarwyddo’r cam hwnnw, a arddodd y maes ar gyfer y prosiect presennol.

Y prosiect presennol

Ariannwyd y prosiect tair blynedd presennol gan yr AHRC. Trawsgrifiwyd y deunyddiau gan D. Mark Smith a Diana Luft, a fu’n gyfrifol hefyd am yr amgodio. Addaswyd ac ehangwyd y fframwaith amgodio a ddyfeisiasid drwy ymgynghori â Mick van Rootseler, ac ychwanegodd Ewen Orme at raglen Dave Kirtland. Cynhyrchwyd delweddau digidol o lawysgrif Amwythig gan Mark Barrett ac Alun Jenkins. Troswyd y codau yn realiti gan Malcolm Macleod, a datblygwyd y wefan ymhellach gan Chris Veness, a roes iddi ei hwyneb gyhoeddus derfynol. Lee Paton a sicrhaodd sefydlu’r wefan ar un o gyfrifiaduron Prifysgol Caerdydd. Golygwyd y trawsgrifiadau a chynnwys cyffredinol y wefan gan Peter Wynn Thomas, a gyfarwyddodd y prosiect.

Y Gweithgor

Goruchwyliwyd y prosiect gan weithgor a sefydlwyd gan Bwyllgor Iaith a Llên y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ac a gynhwysai Gareth Bevan, Patrick Donovan, Andrew Hawke, Daniel Huws a Morfudd E. Owen ynghyda’r cynrychiolwyr canlynol o Ysgolion ac Adrannau’r Gymraeg: