Breudwd Welsh Prose 1350-1425
English

Dileadau

Meidrolion oedd ysgrifwyr yr oesoedd canol. Gallent wneud camgymeriadau. Ac yr oedd ganyddynt sawl strategaeth ar gyfer cywiro gwallau.

Mae <del> ... </del> yn dynodi llythyren, gair, neu olyniad hwy a ddilëwyd neu y nodwyd mewn rhyw ffordd gan ysgrifydd neu gywirydd na ddylid ei gynnwys yn y testun.

Gellid dileu testun mewn sawl ffordd, a gyfleir gan y priodoledd type:

O blith y posibiliadau uchod, y ddau gyntaf a ddefnyddir amlaf yn ein llawysgrifau ni. Cymerwn, er enghraifft, fod ysgrifydd wedi sylweddoli iddo ysgrifennu brenlhin yn hytrach na brenhin, a’i fod wedi penderfynu cywiro’r gwall. Y tebygolrwydd yw y byddai’n arwyddo bod yr l i’w hanwybyddu naill ai drwy dynnu llinell drwyddi neu drwy roi dot odani. Amgodiwyd enghreifftiau o’r fath fel a ganlyn:

<w>bren<del type="overstrike">l</del>hin</w>
<w>bren<del type="subpunction">l</del>hin</w>

O bryd i’w gilydd, dynodir dileadau ag inc o wahanol liw: coch, gwyrdd, neu las. Pan na fydd y dileadau mewn du, cofnodir y lliw â’r priodoledd rend, e.e.

<w>bren<del type="overstrike" rend="red">l</del>hin</w>