Breudwd Welsh Prose 1350-1425
English

Byrfoddau

Bydd ysgrifenwyr ein cyfnod ni’n byrfoddi rhai geiriau, e.e. Dr am Doctor. Yr oedd byrfoddi’n gyffredin yn yr oesoedd canol hefyd: y pryd hynny gallai ysgrifwyr fyrhau sillafau oddi mewn i eiriau yn ogystal â byrfoddi geiriau cyfan.

Nifer gymharol gyfyngedig o fyrfoddau a ddefnyddid gan ysgrifwyr Cymraeg yr oesoedd canol. Arferid y rhan fwyaf o’r rhain yn Lladin y cyfnod ac mae’n eglur pa sillafau a gynrychiolid ganddynt.

Defnyddid sumbolau arbennig i gynrychioli rhai o’r byrfoddau ond ni fabwysiadwyd pob un o’r rheini eto gan Unicode. O’r herwydd, nid hawdd i’r cyfrifiadur ddangos pob byrfodd. Gan hynny, penderfynwyd ehangu’r byrfoddau yn y trawsgrifiadau a defnyddio’r ffurfiau llawn ar y geiriau a gynrychiolir ganddynt. Manylir ar y byrfoddau a ddefnyddir mewn llawysgrifau unigol yn y ffeiliau blaen.

Amgodiwyd yr elfennau a ehangwyd rhwng y tagiau <expan> ac </expan>. Oddi mewn i air (<w>) y ceir y tagiau hyn bob amser.

Er enghraifft, gellir byrfoddi’r enw Peredur mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

<w>p<expan>er</expan>edur</w>
<w>p<expan>er</expan>ed<expan>ur</expan></w>