Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425
English

Ynglŷn â’r Prosiect

Y Cefndir

Dechreuodd prosiect Rhyddiaith Gymraeg 1350–1425 yn 2004 a’i gwblhau yn 2007. Fe’i hariannwyd gan yr AHRC.

Trawsgrifiwyd y deunyddiau a’u hamgodio gan D. Mark Smith a Diana Luft.

Golygwyd y trawsgrifiadau a’r wefan gan Peter Wynn Thomas.

Ceir manylion am amryfal gyfraniadau cydweithwyr eraill i’r prosiect ar y dudalen hon.

Mae gwybodaeth am gyd-destun ehangach y prosiect i’w chael yma.

Hawlfraint a chyfeirio at gynnwys y wefan

Diogelir holl gynnwys y wefan hon gan hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan na’r data, ac eithrio atgynhyrchu deunyddiau ar gyfer ymchwil neu at bwrpasau addysgol anfasnachol ar ffurf brintiedig. Rhaid cael caniatâd os dymunir eu defnyddio at unrhyw ddiben arall.

O ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar y wefan mewn cyhoeddiadau gofynnir ichi gydnabod y ffynhonnell a chyfeirio ati fel a ganlyn:

Os oes gennych sylwadau am y wefan neu awgrymiadau ar sut i’w gwella, byddai’r golygydd wrth ei fodd pe baech carediced ag ysgrifennu ato. Y cyfeiriad yw ThomasP@caerdydd.ac.uk.

Yr Amgodio

Amgodiwyd nodweddion strwythurol a gweledol y llawysgrifau er mwyn ceisio cyfleu natur ac ansawdd y cynnwys. Ychwanegwyd hefyd nifer o sylwadau golygyddol er mwyn cynorthwyo’r darllenydd.

Mae’r manylion am y codau ar y tudalennau canlynol:

Golgyiadau eraill o destunau Cymraeg:

Gwefannau eraill

Logo’r wefan

I ysgrifydd Llyfr Du Caerfyrddin y mae’r diolch am y logo. Er mai barddoniaeth a ysgrifennodd yn ei lawysgrif, fe’n hudwyd gan ei gelfyddydwaith.