Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

Caergrawnt, Llsgr. Coleg y Drindod O.7.1 – tudalen 46v

Llyfr Blegywryd

46v

Corn buch. ae llygat ae lloscỽrn. pe  ̷+
deir keinhaỽc kyfreith a tal pob un.
Gỽerth eidon dant. neu dant march
tom. pedeir keinhaỽc kyfreith. yỽ. Or
gỽerth dyn vuch y arall. a bot teth
yr vuch yn diffrỽyth. gỽerth y teth
pob blỽydyn a tal idaỽ tra y vuch ar
y helỽ. Deu ugeint a|tal eneit buch
neu ych. dros y croen ỽyth keinhaỽc.
dros y petwar wharthaỽr. ỽyth kein  ̷+
haỽc. dros y penn ar traet. ar amys  ̷+
car ar gỽer. pedeir keinhaỽc. Buch
uyd taladỽy oe heil llo hyt y pymhet.
ac ych or tryded ieu hyt y whechet.
Y neb a wertho buch neu ych. ef a
dyly uot dros tri chleuyt. rac y dery
tri dieu a their nos. rac yr yskefeint
tri mis. rac y pelleneu ulỽydyn.
Teithi ych yỽ eredic yn rych ac
yg gỽellt. ac yn allt ac yg|gỽaeret.
a hynny yn di·tonrỽyc. Ac ony byd
uelly. ny byd teithiaỽl. Ac ony byd
teithiaỽl; atueret y neb ae gỽertho
trayan y werth yr neb ae prynho.