Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

Caergrawnt, Llsgr. Coleg y Drindod O.7.1 – tudalen 28v

Llyfr Blegywryd

28v

y seith mlyned y gat. bit ran deu
hanher y·rydunt o pob peth. Sar+
haet gỽreic ỽryaỽc. herwyd breint
y gỽr idi y diwygir. nyt amgen. her+
wyd breint y gỽr y rother idaỽ Gỽr
a eill yn ryd gadu y wreic or hitheu
yr gỽr arall yn honheit. Ac ny cheiff
hi dim oe iaỽn eithyr y tri pheth ny
dygir rac gỽreic. Ar gorderch a tal y
sarhaet yr gỽr kyfreithaỽl Or dyweit
gỽreic eir kewilydyus ỽrth y gỽr. ta+
let yr gỽr teir bu camlỽrỽ. canys y
harglỽyd yỽ. neu traỽhet hi a gỽia+
len kyhyt ae guppyt. tri dyrnaỽt
lle y mynho eithyr y pen. Or maed
gỽr y wreic; heb achaỽs; talet y sar+
haet idi herwyd y breint. Or edeu
gỽreic wely y gỽr heb achaỽs; talet
  idaỽ teir bu camlỽrỽ.
kyn y chymryt attaỽ trachefyn.
Or yscar gỽr ae wreic kyfreithaỽl
a hi yn veichaỽc. or dyd yd yscaront
y kyfriuir idi amser y uagu yr eti+
ued a uo yndi yna. canys herwyd