Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

Caergrawnt, Llsgr. Coleg y Drindod O.7.1 – tudalen 27r

Llyfr Blegywryd

27r

anafus. neu ry hen. neu ry ieuanc.
nyt amgen llei noc vgein mlỽyd;
punt heuyt a tal. A deudec keinhaỽc
yn|y sarhaet. whech dros teir llath
o vrethyn gỽyn y wneuthur peis
idaỽ. A their dros y laỽdyr. A chein+
haỽc y guaraneu. ae dyruoleu.
vn dros ỽdyf neu uỽell os coedỽr
uyd. Vn dros raff deudec kyfelinaỽc
Teir gỽeith y drycheif ar sarhaet
gỽr a ymreher y wreic y treis. neu
a dycker y ỽrthaỽ. Y neb a dywetto
ar arall sarhau y gorff. os gỽatta
hỽnnỽ; gỽadet ar y lỽ e hunan
heb achwanec. Ot enwa gỽaet
kyny wnelher. neu welet cleis ar+
naỽ; y lỽ ar y trydyd a dyly y rodi.
canys yn lle tyston y kynhelir y
gỽaet ar cleis. Or tereu caeth dyn
ryd; trycher y laỽ deheu ony thal
arglỽyd y caeth sarhaet y ryd. Er+
gyt cryman yỽ naỽd caeth. Ny
byd godor yn reith alltut am yr
hyn ny pherthyno reith gỽlat arnaỽ