Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 8 rhan ii – tudalen 32

Ystoria Carolo Magno: Can Rolant

32

a oruc y|llu a datynnv ev pebyllev a|trwssyaw ev daoed
oll a|dodi ev swmerev ar ev meirch a|chymryt ev hynt
parth a|ffreinc Ac nyt oed wwy no dwy villtir y|wrth
byrth yr ysbaen a|gerdessynt pan oed byrnhawn ac y
bv dir vdunt bebyllyaw ar noeth veyssyd. Ac yd oed
yn ev hymlit yn gyvagos attadunt o varchogyon aruawc
o baganyeit petwar cann mil. Ar nos honno llechu ac ym  ̷+
dirgelu a|orugant yn agos yr ffreing. Ar nos honno y kys  ̷+
gws cyarlymaen yn ludach no nossweith arall. A|thrwy
y hvn y dangosset idaw distriwedigaeth y wyr. ssef val
y|gwelei y vot ym pyrth yr ysbaen a|phaladyr onn yn|y
law. Ac ef a|welej drwy y hvn gwenwlyd yn dwyn y|pa  ̷+
ladyr oy law ay ffrydyaw yny vej y|paladyr yn dryll  ̷+
yev man oll. oduch y benn. Ac yr hynny ny deffroes
cyarlymaen. Ac yn yr vn hvn honno y|gwelej y vot yn
daly arth ac yn|y rwymaw. Ar arth a|welej yn|y vrathv
yn|y vreich y dehev ay vriwaw ay rwygaw y dillat.
Ac ar hynny ef a welej llewppart y wrth yr ysbaen ac yn
dwyn rvthyr kyndeiryawc idaw ac yn hynny y deuej hel  ̷+
gi oy lys e|hvn y erbyn y vrwydyr dros y|arglwyd a|chyr  ̷+
chv y|llewppart yn hy ay achvb y ganthaw. Ac yr yd oed
ef yn|y welet ny deffroes namyn kysgv a|orvc yny vv dyd
ac yna pan doeth y dyd drannoeth kyuodi a|orvc cyarly  ̷+
maen a|galw attaw y wyrda y amouyn ac wynt pwy
a drigej yn ol y gadw y llu rac ymlit a thwyll. Nyt oes
yma eb·y gwenwlyd a wedo idaw hynny yn gystal a rol  ̷+
ant. ssef a|oruc cyarlymaen yna edrych ar wenwlyd
yn llidyawc a|dywedut wrthaw val hynn. O|deuawt
ynvyt y|dywedeistj eb ef ac amlwc yw ar dy ymadrawd
bot ynot kythrevlyaeth. Pwy a|vyd keitwat ar y blaen
ot edewir rolant yn ol. Oger o|denmarc eb·y gwenwlyd
yr hwnn a obryn yr anryded hwnnw ym blaen nep.