Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 7 – tudalen 7r

Peredur

7r

13

gwynllwyt ar ymdidan a ffaredur yr hynny.
Ny dwawt y gwr y peredur pa beth oed hyn+
ny ny|s govynnawd peredur Ac yn agos y
hynny wynt a|welynt yn dyuot y me+
wn dwy vorwyn a dysgyl vawr ganth+
vnt a phenn gwr arnei yn waedlyt. Ac
yna o|newyd enynnv dryc·aruayth a or+
uc y tylwyth. ac yuet a|oruc y gwr gwynllwyt
a|pheredur yny vv amser vdunt vynet
i|gysgu. A|thrannoeth y bore y kymyrth
peredur kenat i ewythyr y vynet ymeith.
ac ef a|doeth racdaw y dyd hwnnw.
y|r coet mwyaf a|welsei ef erioet ac
ym|pell yn|y coet ef a glywei diasbat
ac ef a|doeth yno A|phan daw ef a wyl
gwreic winev delediw a|march mawr
gar i llaw a chyfrwy gwac arnaw ac
a cheleyn ger i bron. a|phan geissei y|wre+
ic rodi y geleyn yn|y kyfrwy ny|s gallei
Ac yna y rodei diasbat wi a|wreic da
eb·y|peredur paham y diasbedy di. Yrof
i. a duw peredur ysgymynnedic bichan gwa+
ret o|m diasbedeyn a geueis i i genit ti.
Paham wreic da eb yntev yd|wyf ys+
gymvnn. i. am dy uot yn achaws i aghev
dy vam eb hi. pan aethost ymeith. y
llewygawd ac o affeith y llewic honno
yd|oed y hanghev. A|r corr a|r corres a
weleist di yn llys Arthur yn llys dy dat
ti a|th|uam y|megesit wynt A chwa+
ervaeth it|tithev wyf innev. a|m gur
jinne yw hwnn. A marchauc ysyt yna
yn|y coet a|ladawd y gwr hwn. ac na
dos di yn|y gyvyl ef rac y lad ar gam
oll yd|wyt y|m kerydu. eb·y peredur

14

Ac am vy mot y·gyda a|chwi kyt ac y bvm
nyt hawd ym y oruot a|thaw di bellach
a|th|iasbedein* ac a|th dryc·aruayth a|mi
a gladaf dy wr ac o gallaf i dial mi a|y
dialaf. Ac wedy daruot vdunt kladu
y gwr wynt a|doethant y|r lle yd|oed y mar+
chawc. Sef y govynnawd y marchavc
y|peredur pwy oed ac o ba le pan deuei. O lys
arthur y dodwyf. i. eb·y|peredur. ay gwr i arthur
wyt ti eb y marchauc. Je eb·y peredur. Jewn
lle yd|ymgystlyneist eb y|marchawc a
mi a|vynnaf ymwan a|thi. ac yn diannot
ymwan a orugant a bwrw a oruc peredur
y marchauc ar hynt a nawd a erchis y
marchauc idaw Ny cheffy di nawd eb+
y|peredur ony friody y|wreic honn o|r lle a my+
net lys arthur gyntaf ac y gellych a
manac y arthur a|y vilwyr may peredur
a|th vwryawd am lad gwr y wreic honn
yn wirion. A manac i arthur nat af. i. o|e lys
ef vyth yn*|ymgaffwyf a|r gwr hir ysyd
yno i|dial arnaw saraet y corr a|r gorres
A|r marchawc a briodes y wreic ac a ro+
des i gret vynet lys arthur ac ar wneuthur
cwbyl o|r a erchis peredur idaw ar mar+
chawc a aeth lys arthur ac a oruc a er+
chit idaw. Ac yna y kauas kei i gerydv
yn vawr am wylltyaw peredur o|r llys. Ac
yna y dwawt gwalchmei arglwyd eb
ef wrth arthur Ny daw y makwy yma
vyth tra uo kei yma. Nit a kei odyma
allan. Myn vy kret eb·yr arthur minnev
a af y geissiaw anyalwch ynys bryde+
yn amdanaw ef yny kaffwyf ac yna
gwnaet pob vn onadvnt waythaf a gallo
i e gilid