Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 21r

Pa ddelw y dylai dyn gredu i Dduw

21r

letrat. yn|y geir hwnnw yd eirch duw na dycco dyn da y gymodawg heb wybot idaw. nac y treis.
nac o|e anvod. nac o|e gymell. nac o dwyll. nac o occkyr. Wythuet yw. na gam tystolyaeth.
yn y geir hwnnw yd eirch duw na chattarnnhao dyn gwelet trwy dwg. trwy y colletto y gym+
odawc o|e glot neu o|e da presennawl. Nawvet yw. na hwennycha na thir na thy dy gymod+
awc. sef yw hynny drwy dwyll neu gamwed. Decuet geir dedyf yw. na hwennycha wr+
eic dy gymodawc. na|e was. na|e vorwynn. na|e anyueil. sef yw hynny na hwennycha da kyn+
hwynnawl trwy dwyll neu trwy gamwed. Gwedy catwo dyn y degeir dedyf. reit yw i+
daw ymgadw rac gwneuthur neu gytsynnyaw yn un o|r seith bechawt marwawl.IV. A chynh+
taf ohonunt yw sybertwyt. sef yw syberwyt ymryvygu o dyn yn|y geudawt. a cheissaw
ymdyrchauel yn uch noc y dylyo. neu ymgyuartalu o dyn ac uch noc ef. A cheigeu yr pecho+
awt hwnnw ynt anufylltawt. gwarthaw dyn neu y tremygu. neu codet. gwneuthur hoffder
o greuyd neu o bechawt. bot yn ryuygus yr golut bydawl. neu vonhed. neu gampeu da. ar
y kyffeylybedigyon weithredeu. Eil pechawt marwawl yw kenvigen. sef yw hynny bod
yn drwg gan dyn gwelet y gymodawc yn gynnedu ar da bydawl. neu gampeu da. neu gre+
uyd. neu vot yn llawen gantaw gwelet gouut neu drwg yn damweinaw idaw. Trydyd
pechaw* marwawl yw digassed. sef y hynny. cadw llit a gwennwyntra yn erbyn y gymodawc o
dyn. o achaws collet neu gam a wnelit idaw. a cheissaw ymdial ac ef ar drwc trwy eir
neu weithret. Petweryd pechawt marwawl. llesged a diogi. a cheigeu yr pechawt hwnnw ynt
yscaelussaw gwassannaethu duw yn yr amsser y dylyho dyn y wneuthur. neu y gyrchu
torri godunnet. peittyaw a phenyt a dottei y beriglawr arnaw. anobeithaw am trugared
duw. tristau yr colli da bydawl. neu dynyon. a|r kyffelybrwyd weithredeu. Pymhet
pechawt marwawl. agawrder a chebydyaeth. sef yw hynny. hwennychu o dyn. neu geissaw da byd+
awl mwy no digawn. Sef yw digawn y dyn bwyt. a dillat. med selyf doeth. neu wedy
caffei dyn da bydawl y garu yn ormod. neu yn llawgaet* o·honaw. a cheigeu yr pechawt
hwnnw ynt treis. a lletrat. ac okyr. a phob twyll kyfnewit oc a wnel dyn ac arall.V.
Hwechet pechawt marwawl yw glythineb. sef yw hwnnw. kymryt o dyn o achaws digriuwch
cnawtawl bwyt. neu lynn mwy no digawn. a cheigeu yr pechawt hwnnw ynt keissaw
o dyn tra·destlussrwyd. neu tra·chyweirdeb ar vwyt. neu lyn. y gymryt tra·gormod o+
·honunt. trwy y bei wrthrwm ar gorff. neu ar eneit. neu y golli y synnhwyreu neu nerth
y gorff. neu gymryt bwyt neu lyn kynn offeren duw sul. neu yn dydyeu gwyleu ar+
bennic. neu yn vynychach noc unweith yn dydyeu catcoreu. am y wilaeu seint a|r gara+
wys. Seithuet pechawt marwawl yw godineb. sef yw hynny gweithret kyt cnawt
rwg gwr a gwreic odieithyr
priodas. neu a gwreic adyat. torri priodas. torri morwynndawt. treissaw gwreic. pechu
yn erbyn anyan a dyn neu ac anyueil. Er medycynaethu eneit dyn o|r seith
bechawt marwawl y rodes duw seith
bedyd escop. kymmyn. penyt. agguenn. urdeu kyssegredic. a phriodas. Sef
yw rinwed y bedyd. bod yn vadeuedic diboen y dyn y holl bechodeu gwedy bedyd. a heb ve+
dyd. nyt oes fford na gobeith y dyn y gaffael nef. ac o achaws hynny. duw o|e vawr tru+
gared a rodes medyant a gallu y pob ryw dyn y vettydyaw rac perigyl agheu.VI. Eil
rinwed yw bedyd escob. a hwnnw a rodir y dyn yr cattarnnhau yn|y ffyd. ac yn ei gristo+
nogaeth. ac o|r rinwed y byedyd hwnnw haws vyd y dyn wrthlad y kythreul. ac ymgadw
rac pechodeu. Trydyd rinwed yw. Kymun. sef yw hynny. corff crist dan liw bara. a
gwin. nyt amgen. crist yn hollawl. o eneit a chorff. a dwywolaeth megys yn y nef y mae.
a hynny oll dan liw bara a gwin. a hwnnw a rodir yr tagnouedu duw a phechaduryeit.
ac yr glanhau eneit dyn o bechodeu madeuawl. ac yr chwaneccau rat y wrthlad pe+
chodeu. Petweryd yw penyt. sef yw hynny. poeni o dyn e|hun o arch y beriglawr
drwy gwbyl ediuarwch. a chyffes lan. ac yn teir rann y dosperthir y penyt. yn
wedi. ac yn ympryt. a chardawt. megys dyn a godho duw o dorri y orchymyneu.