Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 20v

Pa ddelw y dylai dyn gredu i Dduw

20v

*I.Yn y mod hwnn y dysgir y dyn py delw y dyly credu y duw. a charu. a chadw y degeir dedyf.
ac ymoglyt rac y seith bechawt marwawl. ac erbynnyeit seith rinwed yr eglwys yn an+
rydedus. a gwneuthur seith weithret y trugared yr gobrwyaw nef. Pawl ebostyl a dyw+
eit na ellir reggi bod y duw heb ffyd. ac o achaws hynny. llyma val y mae ac y dyly dyn
credu. Credu bot y tat a|r mab a|r yspryt glan yn un duw teir person. Credu y|r un duw hwn+
nw credu a ffurfeidyaw nef. a daear. ac yssyd yndunt yn holawl o greaduryeit. y rei ny we+
lir. a|r rei a welir. ac ef yssyd yn cadw. ac yn amdiffynn. ac yn tywyssaw. Credu dyuot
un mab duw hollgyuoethawc y|mru yr arglwydes veir. a|e eni yn dyn. a bot meir yn vor+
wyn kynn esgor. a gwedy esgor. Credu y iessu grist un mab duw a anet o veir wyry. dyuot
y diodef y dodi ar brenn croc. yr rydhau plant adaf o geithiwed uffernn. a|e varw. a|e gla+
du. a disgynnu y eneit y anreithaw uffernn o|r etholedigyon a oedynt yndi. Y trydyd dyd
y kyuodes o veirw. a|r deugeinvet dyd gwedy hynny yd esgynnwys ar nevoed. A|r decuettyd
gwedy hynny yd anuones yr yspryt glan ar yr ebestyl. a|e dysgyblon a oedynt y gyt yg|
kaerussalem. Credu y iessu grist rodi medyant a gallu y|r ebestyl. a thrwydynt wynteu y
urdolyon prelatyeit yr eglwys. y gaethau. ac y rydhau eneiteu y pobloed o bop ryw bechawt
a vei arnunt. a hynny trwy rinewedeu yr eglwys. Credu kyuod pawb yn|y gnawt. a|e dyuot
rac bronn grist dyd brawt. y varnnu ar bawp herwyd y weithret priawt. a rodi nef tragywy+
dawl y|r sawl a|e gobrwyho. a phoenneu uffernn y|r sawl a|e haedo. Gwedy cretto dyn yn
ffydlawn y duw drwy y pynckeu hynn. hawd gantaw garu duw.II. A llyma y mod y dyly y
garu. dyn a dyly garu duw yn vwy no|e eneit e hun. neu y gorff. ac yn vwy no dyn o|r byt.
ac yn vwy no da pressennawl y byt oll. megys y bei well gan dyn golli da pressennawl y byt oll.
a cholli ketemdeithas dynyon y byt oll. a diodef pob ryw argywed. a thremyc oc a|ellit y
wneuthur ar y corff. a diodef pob ryw agheu gwaradwydus no gwneuthur pechawt
marwawl neu godi duw. dan y wybod idaw. neu o|e vod. Gwedy duw dyn a dyly caru y eneit
e hun yn vwy no dim. a gwedy y eneit e|hun. eneit y gymodawc. a gwedy hynn y gorff e|
hun. a gwedy hynny corff y gymodawc. Sef yw hynny. dyn a dyly caru eneit a chorff y g+
ymodawc. a phuchaw y eneit a chorff y gymodawc. caffel kyffelyp da ac a buchei y gaffael
o|e eneit e|hun. ac o|e gorff. Ac yr keissaw gan dyn garu duw yn vwy no dim. a|e gymodawc
megys e|hun. y gwnaethpwyt yr holl esgrythyr lan. Gwedy cretto dyn yn ffyd+
lawn yn|y megys y dylyho. hawd vyd gantaw gwneuthur gorchymynneu
duw. sef yw hynny erbynnyeit y degeir dedyf a|e cadw. Kyntaf o|r degeir yw. Na vit itt
eu dywyeu. yn|y geir hwnnw yd eirch duw tat hollgyhoethawc na wneler rinyeu a|r swyn+
neu. na chyvarwydon. na swynneu gwahardedic gan yr eglwys. Eil geir dedyf yw. na
chymer enw duw yn annudon ac over
lw. Trydyd geir dedyf yw. del y|th gof gyssegru duw syl. yn|y geir hwnnw yd eirch duw. na
wnel dyn e hun na|e was. na|e vorwynn na|e anyvueil gweithret. na phechawt marwa+
wl yn dyd sul. neu yn dyd gwyl a warho yr eglwys. kanys yn|y dydyeu hynny arbennic
y dyly dyn wediaw. a golochwydaw. a gwneuthur gweithredoedd y trugared.III. Petweryd
yw. anrydeda dy vam. a that. yn y geir hwnnw yd eirch duw y dyn wneuthur diwall
wassannaeth drwy uvyllawt. ac enryded o|e tat a|e vam. a|r kyffelyp wassanna+
eth ac enryded a hynny a dyly dyn y wneuthur o|e brelat. a|e beriglawr. ac y tat kna+
wdawl neu y vam. Pymhet yw. na lad gelein. yn y geir hwnnw yd eirch duw y dyn na
latho a|e law. nac o|e arch. nac o|e gyghor. nac o|e annoc. nac o|e ystryw. nac o|e gyttsy+
nnyaw. na rodi ehofyndra o amdiffynn lleidyat. Ac yn|y geir hwnnw duw a eirch y d+
yn na wnel argywed ar gorff dyn arall o|e daraw. neu o|e garcharu. neu o|e doluryaw.
Ac yn|y geir hwnnw yd eirch duw na dyccer ymborth na da dynyonn tlodyon
y varw o eisseu. ac na chattwo dyn lit o digassed
yn erbyn y gymodawc. Hwechet yw. na wna odineb. yn|y geir hwnnw yd eirch
duw na bo kyt cnawt rwg gwr a gwreic odieithyr priodas. Seithuet yw. na wna

 

The text Pa ddelw y dylai dyn gredu i Dduw starts on line 1.