Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 12v

Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth

12v

paladyr yn goleuheu. Y pymhet oed dywyll a gwaedawl. ac yndaw megys llugorn yn taranawl
dywyllwch. Y hwechet a|oed diruawr y thywyllwch. ac yndaw pwynt blaenllym megys
poynt scorpion. Pryf yw y scorpion bychan y gorffolyaeth. unveint ac wchileryr. ac oerach y wenwyn no dim. Y
seithued oed tywyll heuyt ac aruthyr o liw gwaet. ac yndaw megys cledyf petwar·minyawc.
Yr wythuet oed ardmenedic. ac yn|y berued lliw cochwydawl. Y nawuet heul oed ry|dywyll
yn|y chylch ogylch. ac yn|y perued un paladyr yn goleuhau.IIIPann ercheuynawd
sibli y gaer rufein y mewn. bordeisseit y dinas. pan y gwelssant. a ryuedassant yn vawr am y thegwch i o
anrydedus osgeth tec. ac erdrym y phryt yg|golwc pawb. hyawdyl y geireu doethinabus. ac
o bop tegwch arderchawc y chorff. Ac y|r gwarandawyr y hymadrawd a|oed safwyrus. a
melys ymdidan a gyfranney. Yna y doethan y gwyr ry|welsynt yr un breudwyt attey. ac
y dechreussant wrthi yn y mod hwnn eu hymadrawd. Athrawes ac arglwydes mor wedus
gorff a|th teu ti. y kyuryw arderchogrwyd bryt kynno thi ar wreic yr holl daear ny|s ry|
welsam. canys gwdost manac yn rac llaw yn damweineu tyghetuenawl. Hitheu val hynn
a attebawd. nyt kyuyawn yn lle kyulawn o betheu budyr. a llygredic o amryuaelon
brouedigaetheu dangos rinwed gweledigaeth a del rac llaw. namyn deuwch gyt a mi hyt
ym|penn y mynyd raccw. yr hwn yssyd oruchel ac eglur. Ac yno mi a vanagaf ywch yr
hynn a del rac llaw y dinas rufein.IVAc yno y doethant y·gyt mal yd herchis. ac ydi hi yno
y managassant y gweledigaeth. a|r breudwyt a welsynt. A hitheu a dywot. Y naw heul
ry|welsawch a arwydocaant y kenedloed a delwynt rac llaw. a|r amrauelder* oed arnadunt
a dengys amrauael vuched y a byd y veibon y kenedloed hynny. Yr heul
kyntaf a venyc y genedyl gyntaf. yn yr honn y bydant dynyon mul. ac eglur y garu rydit.
A gwirion vydant a hynawys* a thrugarawc. ac a garant y tlodyon. a digawn eu doethet.
Yr eil heul yr eil genedyl. a dynyon vydant a vuchedocant yn eglur. ac a amylhawynt
yn uawr. ac a diwhuyllant duw heb drycdyuyaeth. ac y gyt·vuchedokaont ar y daear. Y trydyd
heul y trydyd genedyl. ac y kyuyd kenedyl yn erbyn kenedyl. a llawer o ymladeu a vyd yn rufein.
VY petweryd heul y betwared lin. ac yn yr amser hwnnw y daw dynyon a wattont gwirioned.
ac yn|y dydyeu hynny y kyuyt gwreic. a meir vyd y henw. ac ydi y byd gwr. ioseph y
enw. ac y creir o|r veir honno mab heb gyt gwr a gwreic. drwy rat yr yspryd glan yn vab
y wir duw. a|e enw a vyd iessu. A meir a vyd gwyry kynn esgor a gwedy escor. yr hwnn a aner
o honno a vyd gwir duw a gwir dyn. megys y managassant yr holl brophwydi. ac y eulenwa
kyureith gwyr eurey. ac y kyssyllta y petheu priawt y·gyt. ac a dric y teyrnas yn oes
oessoed. A phan aner hwnnw y daw lleg o egylyon ar y deheu. ac ar y asseu y dywedut
gogonyant y goruchelder y duw. ac yn|y daear tagneued y|r dynyon. ac a daw llef y arnad
y dywedut. hwnn yw vy mab. i. karedic yn yr hwnn yr ryggeis. i. vod ymi yndaw.VIYno
y·d|oedynt effeireit gwyr eurey rey yn gwarandaw. ac y dywedassant wrthi val hynn.
Yr ymadrodyon y·syd aruthyr. tawed y vrenhines honn. Sibli a attebawd udunt. Oi ideon
agheu yw bot velly. ny chredwch hagen idaw ef. wynteu a dywedassant na chredwn. kanys
tystolyaeth a geir a rodes yn tadeu ni. hitheu. ac ny duc ef y law y wrthym ni. Hitheu
eilweith a attebawd udunt. Duw nef a|enir megys y mae ysgrivenedic. kyffelyp vod o|e tat.
a gwedy hynny mab drwy oessoed a tyf. ac y kyuodant yn|y erbyn brenhined
a thywyssogyon y daear. Yn|y dydyeu hynny y byd y cesar arderchawc enw. ac a wledych
yn rufein. ac a darestwg yr holl daear idaw. Odyna y kyuodant tywyssogyon yr offeireit yn
erbyn iessu. yr hwnn a wna llawer o wyrtheu. ac wynt a|e dalyant ef. ac wynt a rodant
idaw bonclusteu o ysgymynyon dwylaw. ac yn|y wyneb kyssegredic y poerant. poer gwenwynawl.
ac a dyry ef y geuyn gwerthuawr udunt o|e uaedu.
ac yr kymryt amarch y gantunt. ef a dew*. Yn vwyt idaw y rodant bystyl. ac yn diawt gwin egyr a