Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 283

Brut y Brenhinoedd

283

y alan urenin. llydaỽ y oresgyn y kyuoeth
dracheuyn. Ac gỽedy addaỽ porth idaỽ Tra
yttoedet yn parattoi llynghes y doeth llef o nef
at Catwaladyr y erchi idaỽ peidaỽ a|e dar+
par Cany mynnei duỽ gỽledychu o|r bryt+
tanneit hỽy no hynny. yny delhei yr amser
tyghetuenaỽl a daroganỽys myrdin rac
bron arthur. Ac erchi a wnaeth y llef y Cat+
waladyr mynet hyt yn ruuein at sergei+
us pap. Ac yno gỽedy darffei idaỽ y penyt
Ef a|riuit y rỽng y rei gwynuydedigyon.
Ac y dywaỽt yr angel mae trỽy euyrllit y
fyd ef y caffei y bryttanneit lywodraeth ynys
prydein. Pan darffei lenwi yr amser tyg+
hetuenaỽl. Ac ny bydei gynt hynny noc
yny keffit esgyrn Catwaladyr uendigeit
o ruuein a|e dỽyn hyt yn ynys. prydein. A hynny
a keffir o|r diwed pan dangosser esgyrn y
seint ereill a cudyỽyt ygyt ac ef Rac of+
yn y paganyeit yn ruuein. A phan gaffer
yr esgyrn hynny y keiff y bryttanneit eu har+
glỽydiaeth ar ynys. prydein. Ac gỽedy caffel o
Catwaladyr y dỽywaỽl atteb hỽnnỽ. y do+
eth at alan urenhin llydaỽ y uenegi hyn+
AC yna y kymyrth alan am +[ ny idaỽ
raual