Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 280

Brut y Brenhinoedd

280

waladyr uendigeit llywodraeth y teyrn+
as. Mam Catwaladyr oed chwaer un
dat a pheanda. A|e mam hitheu a|hanoed o dy+
ledogyon erging ac euas. A honno a gym+
yrth Catwallaỽn yn wreic idaỽ. Ac gỽedy
llywyaỽ o Catwaladyr y teyrnas trỽy yspeit
deng mlyned trỽy hedỽch. y cleuychỽys o ryỽ
nychdaỽt. Ac achos hynny kyuodi teruysc
rỽng y bryttanneit e|hun. Ac y gyt a hynny
ryỽ direidi arall a doeth arnadunt y dial o
duỽ eu syberwyt. Sef oed hynny diruaỽr
uall newyn a marwolaeth dros ỽyneb ynys
prydein. yn gyffredin hyt na cheffit na bỽyt na
diaỽt Eithyr y neb a allei hely yn|y diffeith+
ch. Ar tymhestyl honno y doeth marwolaeth
yn|y hol hyt na allei y rei byỽ cladu y rei mei+
rỽ. Sef a wneynt mynet ymdeith dros uoro+
ed gan cỽynuan. Ac adaỽ y gỽlat e|hun
yn diffeith. A dywedut ual hyn. Arglỽyd
holl kyuoethaỽc nef a dayar Ti an rodeist
megys deueit yn uỽyt bleideu. Ac yna y
kyweirỽys Catwaladyr e|hun llynghes ac
yd aeth tu a|llyghes. Ac yd aeth tu a|llydaỽ
gan ychwanegu y ryỽ tuchan hon. Gwae
ni pechaduryeit gan yn pechodeu trỽy y rei