Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 204

Brut y Brenhinoedd

204

achub a oruc y saesson mynyd oed yn agos
udunt. A chymryt hỽnnỽ yn lle castell. Ac
ymdiret yn amylder eu niuer. Ac eissoes pan
arỽydỽys yr heul y|dyd dranoeth. Esgyn+
nu a oruc arthur a|e lu pen y mynyd a llawer
a golles o|e wyr yn esgynnu y mynyd Canys
haỽs oed yr saesson ymlad o penn y mynyd
noc yr bryttaneit argywedu udunt hỽy y+
n|y gỽrthỽyneb. Ac gwedy treulaỽ llawer o|r
dyd yn|y wed honno llidyaỽ a oruc arthur o|we+
let y saesson yn ymlad mor ỽraỽl a|hynny
ac nat ydoed ynteu yn cael y uudugolaeth
ac ar hynny tynnu catletuỽlch o|e wein
a|wnaeth arthur gan alỽ enỽ duỽ ar arglỽy+
des ueir. A chyrchu y lle tewhaf y gwelei y
saesson. Ac ny orffỽyssỽys yny ladaỽd e|hun
a|e un cledyf. Deng wyr a|thri ugeint a ph+
edwar canhỽr. Ac gỽedy gwelet o|r brytt+
aneit hynny. Gleỽhau a wnaethant a
gỽneuthur aerua diruaỽr y meint o|r saesson
ac yna y llas colgrim a|baldỽlff y uraỽt a
llawer o uilyoed y gyt ac wynt. Ac gỽedy
gwelet o cheldric hynny kymryt y fo a oruc.
AC gwedy caffel o arthur y|uudygol+
 aeth honno. Sef a wnaeth ynteu an+