Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 45 – tudalen 135

Brut y Brenhinoedd

135

eu ac yd aethant hyt yn ynys tanet y keissaỽ
ymgadỽ yndi. Ac gỽedy eu kylchynu o werthe+
uyr a|e blinaỽ mal na ellynt y diodef. Anuon a
wnaethant Gortheyrn oed ygyt ac wynt ym
pob brỽydyr hyt ar Gwertheuyr y uab y erchi
idaỽ canhadu udunt uynet yỽ gỽlat yn ryd. A|th+
ra yttoedet yn kymryt kynghor ymdanunt. Sef
a|wnaethant kymryt y llongeu ac adaỽ eu gỽra+
ged a|e meibon a ffo hyt yn germania; ~
AC gỽedy cael o gwertheuyr y uudugolaeth
dechreu a wnaeth ef talu y paỽb eu dylyet
ar daroed yr saesson y dỽyn arnadunt. A chadỽ
iaỽnder a|phaỽb. Ac anrydedu yr eglỽysseu ỽrth
gynghor Garmon esgob. Ac eissoes kynghoruynu
a|wnaeth diaỽl ỽrth y dayoni ef. A dodi yg callon
ronwen y lysuam medỽl y keissaỽ ystrywaỽ y ang+
heu. Ac gỽedy medylyaỽ ohoni. Sef y rodes idaỽ
gwenỽyn yn llaỽ un o|e wassanaethwyr. Ac gỽe+
dy kymryt y gwenỽyn ohonaỽ. kleuychu a|wna+
eth o ỽrthrỽm heint. Ac yn|y lle dyuynnu attaỽ
holl wyrda y teyrnas. Ac gwedy eu dyuot. rannu
udunt a|gynnullassei o eur ac aryant a da arall
a menegi udunt y uot ef yn mynet y gantunt
y angheu. A phaỽb onadunt wynteu yn drycyr+
uerth. Ac ynteu yn|y kynghori hỽy. Ac yn annoc yr
gwyr ieueinc deỽr ymlad dros y gỽlat ac amdi+
ffyn eu teyrnas rac estraỽn genedyl. Ac gwedy