Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 3 rhan ii – tudalen 28

Breuddwyd Pawl

28

Ac ef a glywei gwynuan ac wylaw megis taran. Ac edrych
a|wnaeth ef o bell y|wrthaw ac ef a|welei eneit pechadur yn
rwym gan seith diawl yn|y dwyn yr awr honno o|r korff. ac
yntev yn vdaw ac yn gweidi. Ac enghylyon nef yn dywedut
ac yn lleuein. Och. Och. Och. gwae di eneiet* truan pa beth a
ry|wneithosti. Ie medei i|dievyl. LLyma yr eneit a|dremygawd
gorchymynneu duw. ac yna darllein sartyr a|e|bechodeu yn
ysgriuenedic yndi. a|y weithredoed yn|y varnu y|r poenev. a|r
dieuyl yn|y gymryt ac yn|y anuon y|r tywyllwc eithaf yn lle
yd|oed wylaw a chrynua danned a thristyt a|thrueni. Ac yna
y|dyuawt yr aghel. Kret ti bawl ac etnebyd panyw megis
y|gwnel dyn yn|y byt y|keiff eilchwyl. Ac yna y|gwelei bawl
eghylyon yn dwyn eneit glan o|r corff manach gwirion ac yn
y arwein y|r nef. Ac yna y|klywei bawl llef mil vilioed o ene+
idyeu ac eghylyon yn llawenhav wrthaw ac yn dywedut.
O. yr eneit detwydaf. byd lawen he·diw kan gw anaethost*
ewyllys duw. Ac yna y|dyuawt yr eghylyon. dyrcheuwch
y|r eneit gyr bronn duw y|darllein y|gweithredoed da a|wna+
eth. Ac yna y|duc mihaghel yr eneit y|baradwys yn|y lle
yd|oed yr holl egylyon yn erbyn yr eneit gwirion. a ga+
wr o|lewenyd a|dodassant mal pet uei yr heul a|r lloer a|r
awyr a|r daear yn kyfroi. A|lleuein a|oruc y|pechaduryeit
o|r poeneu. a|dywedut. Trugarhaa wrthym vihagel arch+
angel. a|thithev garedicaf bawl ebostol eiriawl drossom ar
duw. kanys ni a wdam y|mae drwy awch gwediev chwi y
kynhelir y|nef a|r daear. Ie hep yr angel wylwchwi a mi+
nev a|wylaf gyt a|chwi a mi a|r engylyon ysyd gyt a|mi a pha+
wl ebostol yny drugarhao duw wrthywch ac yny rodo nodua
ywch. A lleuein a oruc y nifer a oed yn|y poenev. a|lleuein a|w+
naeth mihanghel a phawl a mil vilioed o eneidyev glan ac
engylyon yny glywit eu llef yn|y petweryd nef yn|dywedut.
Arglglwyd* grist trugarhaa wrth ueibion y dynyon. Ac yna