Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 21 – tudalen 39v

Brut y Brenhinoedd

39v

1

y|gwr a|vv gyt ac arthur yn gor  ̷+
esgyn gwladoed. Ac y|r verch
honno y|bv alan yn vab o|hywel
vychan. Ac y|r alan hwnnw y bv yn
vab hywel dy dat dithev arglwyd
a|gwr kadarn grymvs vv hwnnw
Ac yna y trigawd katwallawn y
gayaf hwnnw ygyt a|selyf
Ac yn ev kynghor y|kawssant
ellwng breint hir y ynys. brydein. y|geis  ̷+
saw chwedlev. Ac y|geissaw kyfle
y wneithur anghev pellitus dewin
etwin. A breint a|doeth y|dir yr
ynys honn a|hynny yn rith rei  ̷+
dus ac a|gwisc reidus amdanaw
ac a|bagl o|hayarn yn|y law. Ac ef
a|doeth racdaw yny vyd yng|kaer
efrawc kanys yno yd oed etwin
yna. Ac ny wybv ef dim ac ef
ymplith y|revdusyon yny wyl
chaer idaw yn dyuot o|r llys all  ̷+
an a|llestyr yn|y llaw y|gyrchv
dwvyr y|r vrenhines. Kanys etwin
a|dygassei y|vorwyn honno ganyth  ̷+
aw o|gaer wranghon ac a|y rodas  ̷+
sei y|wassanaethv y|vrenhines. Ac
wedy ymadynabot onadvnt o+
vynhaev a|oruc y|vorwyn rac
atnabot breint a|y gaffel. Ac o|ym  ̷+
didan byrr menegi a|oruc hi ida  ̷+
w ef anssawd y|llys oll. A|dangos
a|oruc idaw y|dewin a|dadoed allan
yr oric honno o|r llyS y|rannv alvs  ̷+
enev y|r reidussyon Ac yna yd
erchis breint o|y chwaer pan vei

2

nos dyuot ataw ef allan odieithr
y|gaer a|r llys y|emyl hen demyl a|oed
yno Ac yn|diannot ymwahanv a|orug  ̷+
ant a|mynet a|oruc y breint ym plith
y|reidussyon yn|y lle y|gweles y|dewin
A ffan gauas gyntaf gyvle y|droi
y vagl hayarn o|lawn nerth y|vreich
a|y ysgwyd ef a|want y|dewin yny
vyd y|vagyl drwydaw ac yntev yn
varw y|r llawr. Ac yn gyvlym ystrw  ̷+
gar ymlithraw o|y ochrwm a|oruc
breint ym plith y|revdussyon ac ym  ̷+
adaw a|y vagyl hyt na wybvwyt
arnaw ef hynny mwy noc ar|arall
A|dyuot hyt y|lle yd adawssei a ros
y chwaer. Ac ny chauas y chwaer o
ffuryf o|r byt dyuot allan o|r|llys
rac meint y|kynnhwrwf a|vv yn|y
llys am lad y|dewin ac amgenv oll
a|wnaethant y|nos ev gwassaeth
ac ev gwylvaev ac ar brytth y|gaer
ac odieithyr A ffan wybv vreint
hynny mynet a|oruc ef odyno hyt
yng|kaer exon A|dyvynnv ataw yno
llawer o|r brytanyeit a|chadarnhaev
y|dinas a|r gaer a|menegi vdvnt
llad ohonaw ef y|dewin. Ac yn dian+
not anvon kennat ar gatwallawn
y|dywedut idaw y|damwein ac y
bob lle oll dros wynep yr ynys o|r yd
oed y|brytanyeit ef a|anvones attad+
vnt y|damwein hwnnw. ac erchi vd+
vnt vot yn gyweir o|arvev ac yn
duhvn y|dyvot yn erbyn katwall 
pan glywynt y dyuot Ac yna