Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 19 – tudalen 17v

Brut y Brenhinoedd

17v

67

B *Rytaen oreu o|r ynys+
ed yr honn a|elwit
gynt y wenn ynys
yg|gorỻewinaỽl eigyaỽn. y+
rỽg freingk ac Jwerdon y
mae gossodedic wyth cant
miỻtir yssyd yn|y hyt. a|deu+
cant yn|y ỻet. A pha|beth byn+
nac a|vo reit y dynaỽl aruer
o anniffygyedic ffrỽythlonder
hi a|e gỽassanaetha. Y·gyt a
hynny kyflaỽn yỽ o|r maesti+
red ỻydan amyl. a brynneu
arderchaỽc adas y dir diw+
yỻodraeth. drỽy y rei y|deu+
ant amryuaelyon genedyl+
oed ffrỽytheu. Yndi heuyt
y maent coedyd a ỻỽyneu
kyflaỽn o amgen genedloed
aniueilyeit a bỽystuileit. ac
y·gyt a hynny amlaf kenue+
inyoed o|r gỽenyn o blith y
blodeu yn kynuỻyaỽ mel.
ac ygyt a|hynny gỽeirglod+
yeu amyl y·dan awyrolyon
vynyded. yn|y rei y|maent
fynhonneu gloeỽ eglur. o|r
rei y kerdant ffrydyeu. ac a
lithrant gan glaear sein. a
murmur arwystyl kerd. a
hun yỽ y rei hynny y|r neb a
gysgo ar eu glann. Ac ygyt
a hynny ỻynneu ac auono+
ed kyflaỽn o amryuaelyon
genedloed bysgaỽt yssyd yndi.

68

ac odieithyr y perueduor yd eir
drostaỽ y ffreingk. teir auon
bonhedic yssyd yndi. Nyt am+
gen. temys a humyr. a hafren.
a|r rei hynny megys teir bre+
ich y maent yn rannu yr
ynys. Ac ar hyt y rei hynny
y deuant amryfael gyfnew+
idyeu o|r gỽladoed tramor. ac
ygyt a hynny gynt yr oed yn+
di wyth prif dinas ar hugeint
yn|y theckau. a rei o·honunt
hediỽ yssyd diffeith gỽedy
diwreidyaỽ eu muryoed yn
waỻus. ac ereiỻ etto yn sefyỻ
yn iach. a themleu seint yn+
dunt yn moli duỽ. a muryo+
ed a|chaeroed arderchaỽc yn
eu teckau. ac yn|y temleu ken+
ueinyoed o wyr a|gỽraged a
chỽuennoed yn talu gỽassa+
naeth dylyedus yn amsero+
ed keugant y eu creaỽdyr
yn herỽyd cristonogaỽl fyd.
ac o|r diwed pump kenedyl
yssyd yn|y chyuanhedu. Nyt
amgen. normanyeit. a|bryt+
tanyeit. a|saesson. a|ffichteit.
ac yscottyeit. Ac o|r rei hynny
yn gyntaf oỻ y bryttanyeit
a|e gwledychaỽd o vor rud hyt
ar vor Jwerdon yny|doeth di+
al y gan duỽ arnadunt am
eu kam·syberwyt y gan y
ffichteit a|r saesson. Ac megys

 

The text Brut y Brenhinoedd starts on Column 67 line 1.