Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 10 – tudalen 7r

Ystoria Carolo Magno: Pererindod Siarlymaen

7r

a·chwanegu dy henw. ac a|dodaf Chiarlymaen
arnat. Ac yna gyntaf eirioet y gelwit ef chi+
arlymaen. A chyno hynny Chiarlys. Ac ynteu
a gymyrth yn llawen achwanegu y henw gan y
pedriarch a|e diolwch. ac a·dolwyn idaw ychydic gyf+
ran o greirieu caerusselem. Nyt ychydic eb y pedri+
arch namyn kyuyran ehelaeth. val y galloch anry+
dedu ywch gwlat. yr honn a wdam ni. y bot yn deilwg
o anryded. Ac ual y kwplaei y pedriarch y edewit ef
a rodes y Chiarlymaen. breich seint symeon A phenn
saint lazar. a rann o waet styphan verthyr. Ac amdo
iessu grist a|e gyllell a|e garegyl. ac ỽn o|r kethri. a bw+
y·wyt yndaw yn|y groc a|e goron. a rann o ỽaryf bedyr
ebostol ac o|e wallt. Ac o|laeth y wynnuydedic veir wy+
ry. ac vn o|e hesgidieu. A diolwch hynny yn ỽawr a or+
uc Chiarlymaen yr anrydedus bedriarch gan dirua+
wr lewenyd o anryded mor ỽawrweirthiawc a hw+
nw o greirieu. A gleindyt y kreirieu ac eu gwyrth a ym+
dangosses yna trwy dissyuyt rinwed. sef ansod ỽu hynny
crupyl oed yno ny ry gerdassei gam annyanawl ar y dr+
aet seith mylyned namyn ymlithraw wrth y|dwylaw
a pharllaphonec val mab a gauas rac bronn y kreirieu
y bedestric. Ac yn diannot wedy knullo eurychot kywreint
y peris y brenin gwneuthur kist anrydedus y gadw y
creirieu yndi. A gorchymyn eu keitwadaeth yn graf. y
durpin archescob. A gwedy hynny y trigawd y brenin yg
caerusselem bedwar|mis. Ac yno y dechreuod gweith. e+
glwys a oed aghwbyl o·honei. y rodes dogyn o eur ac a+
reant yr pedriarch wrth y chwplau. A phan gychwynnod
odyno kymryt cannyat y pedriarch a oruc a|e ỽendith ac
adaw idaw o darfei y ỽynet yn iach dracheuyn yw wl+
at. yd ai. o·dyno parth ar yspaen y emlad ar paganieit
yr edewit hwnnw a gwplaawd y brenin pan gymyrth ro+
lant ar deudec gogyuurd buched antyruynedic yglynn
y mieri yn yr yspaen. y ymadaw a buched amserawl we+
dy llad diruawr amylder o|r paganieit yn|y lle hwnnw.
Y brenin a ossodes ar bawp y gychwyn yn gyfredin y ni+
uer parth a hu y Gorstinabyl. Ac wynteu yn llawen