Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 10 – tudalen 40r

Ystoria Carolo Magno: Can Rolant

40r

Ac nyt aa y ỽlwydyn honn heibiaw yn gwbyl. a nes yw
dyuot dial y ỽrawt enwir honno ym penn y neb a|e bar+
nawd. Ry hawd yw gennyt ti. wenlwyd eb·y chiarly+
maen kyfroi ar irlloned. teilygach ac aduwynach
yw o|r gwr goruot ar y dryc annean; no goruot o|r
dryc annean ar y gwr. Cwplaa di y neges honn o
anryded y gorchymynnwr ac na daly di. nac ar y+
madrodeon. ereill nac ar eu hewyllys. Namyn a or+
chymynn chiarlymaen vrenin. Parawt wyf i. y ỽuy+
dhau yr gorchymynnwr eb·y gwenlwyd. A mi a gerdaf
heb·y gwenlwyd. Ar ỽarsli eb ef heb obeith dyuot dra+
cheuyn. namyn ỽy llad o|e hanfydlonder ef vegis ba+
sin. a basil. A llawer a gollet o syberwyt rolant eb ef
a llawer etwa a gollir o byd dim hoedyl idaw eff.
Ac y|mae ef yn cassau vymywyt. i. ac y medyleaw
byrrhau vyn diwyrnawt. i. ys llawer o amsser.
A phaham arglwyd y kytsynny di a|e syberwyt
ef Paham arglwyd yd anuony di vyui. dy daw gan
dy chwaer o annoc rolant y ymlad ar ỽarsli. wedy
basin a basil. Y|mae ytti. nei vab chwaer yn etiued
ymi. Bawtwin yw y henw. a dengys arwydeon y
ieuenktit y byd gwr da rac llaw. Hwnnw a orchym+
ynnaf y|th fydlonder di. y difryt defnydeaw o ro+
lant idaw agheu wedy y dat. Ry|uethedic yw dy
galonn di. eb·y chiarlymaen. a ry wreigieid dy ỽed+
wl. Ac nyt gwedus y wr yr mabawl gareat y
drossi. y dywedut peth mor vethedic a hynny. A
mawr y tristaawd gwenlwyd ac yd anhyuyryta+
awd am ỽynet ar ỽarsli. Diosc y ỽantell y am
y uwnwgyl a oruc. ac eisted o wisc borfor y dynnu
golwc pawb arnaw o anryuedet y degwch a|th+
rossi ar Rolant heb arbet yw anryded. ac ymliw
ac ef yn serth chwerw Rolant syberw eb ef
pa ynuytrwyd yssyd ynot ti. y|th gyfroi hep
orffowys. pa dryc yspryt yssyd yn auylonydu
dy ỽedwl. di. a|th ỽryt y digrifhau o·honot y|la+
uureaw ereill ac y eu hauylonydu val ti dy
hun Y freinc a ettelieist seith mylyned ar|ỽntu
yr awr honn yn yr yspaen. ac a bereist ỽdunt lla+