Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 10 – tudalen 38v

Ystoria Carolo Magno: Can Rolant

38v

yr brenhin teruynu y ymadrawd y kyuodes rol+
ant y attep idaw herwyd y dyall. Pwy bynnac eb
ef a dwyllo ỽnweith. ef a dwyllir yr eilweith
a hwnnw a obryn yr eilweith y dwyllo. a ym·greto
yr eilweith a thwyllwr. Y brenin dosparthus y
brenin ardechawc na dygret y ỽarsli. yr hwnn
yssyd brou·edic gennyt gyn no hynny y odiwes
yn dwyllwr. A gerdawd o|th gof di ettwa. maint
y twyll a oruc ef ytty. pan doethost di gyntaf yr ys+
paen. llawer o|e gedernyt a|distriwassut. a llawer
o|r yspaen a oresgynnassut a danat duhunan. Yr
vn geirieu hynn ar gennadwri. a|anuones ef attati
yna yr ỽn peth hwnn. a edewis yr anfydlon y wn+
euthur yt yna. Ac yna yd anuoneist attaw. ba+
sin a basil yn gennadeu. y gymryt kedernyt o|e ed+
ewidion. Ar rei hynny a beris y brenin enwir llad
eu penneu. rac y ỽronn. Wrth hynny. beth yssyd gyn
iewnet y ninneu. ac na chretom idaw ef. Beth heuyt
yssyd iewnach yni. no dial arnaw ef y bratwrea+
eth hwnnw. a galanas yn gwyrda. Ac nyt oes ynn
a wnelom namyn ymchwelut yn kedernyt am benn
saragys. y emlad a hi. a threuleaw an buched yny
caffom. Nyt teilwg yni. a·daw heb dial. a oruc o
anfydlonder yni. Ac nyt credadwy heuyt y ỽot
rac llaw yn fydlon gatholic. yr hwnn yssyd y anfyd+
londer yn bagan. A phyn deruynawd rolant
y amadrawd. ny|s attebawd chiarlymaen ef
ar dim. namyn trossi y benn ar y esgwyd ac y+
modi y ỽaryf lwyt a oed dros y dwy ỽronn. ac
ny bu heuyt nep o|r freinc a dywetei dim y gyt
a Rolant nac yn|y erbyn. namyn gwenlwyd
a gyuodes rac bronn chiarlymaen. y annoc gwr+
thwynep y rolant val hynn. Dielw yw y kygor
heb ỽo o syberwyt. ac yn enwedic y lesteiriaw lles