Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 10 – tudalen 10v

Ystoria Carolo Magno: Pererindod Siarlymaen

10v

rait uyd yt y broui. ac yna y byd amlwc geu y|bocsachwr. Ar
oger o denmarc y daw y gware weithion eb y chiarlymaen
Nyt ymwrthodaf i. a chwplau vy chwyl. eb ef. Y golouyn
eureit ỽawr a welsoch chwi y|ghymerued y neuad yn kynn+
al y pwys oll. mi a ymauaelaf yndi aỽory o|m llawn ne+
rth ac a|e tynnaf yr llawr yn vn kwymp hyt na diago neb
o|r a ỽo yndi. gan y kwymp. Val dyn dissynnwyr y|dywedy
eb y gwarandawr. ac ny allei hynny damweinio byth. ac nyt
teilwg bot y dyn dissynnwyr hwnn yg kymydeithas dyne+
on. Naym dwyssawc eb y chiarlymaen. bieu gware weithi+
on. nyt ymwrthodaf i. eb y twyssoc a gwneuthur ewyllys y|brenin
benfykyet hu vrenin eb ef ymi. a·ỽory y lluric cadarnaf idaw a
thromaf. ac a honno amdanaf mi. a neidiaf yn ỽn neit yny
uwyf ar benn y neuad. ac odyna mi a neidiaf dracheuyn yr lla+
wr. a chyn cael kygraf ar hynny. mi a ymychwelaf y eiste ar
neillaw Hu gadarn. Ac yn diannot. a gyuodaf eilweith o|m ei+
stedua. ac a ym·ysgytwaf yn gyn yrdet. ac yd ymwahano
holl ỽodrwyeu y lluric yn ỽn agwed a|chyt bythynt cras ga+
laf calet. Gwydyn yw hwnn eb y gwarandawr a gieu cale+
taf yw yr eidaw. yr hwnn a edeu kyfroi y wydyn goryf o
aruaeth kymint a hwnnw. Ni a ỽynnwn ware weithion
o vrengar eb y brenin. Parot wyf i. eb y brengar y ymdidan
wrth ewyllys y brenin. Paret hu vrenin. gossot holl gled+
yueu y ỽarchogeon yn y|daear ac eu blaeneu y ỽyny. a|hynny
yn noetheon y·dan y twr ỽchaf o|r a welssoch chwi doe. a mi
a drigiaf y benn y twr. ac odyno mi a uwreaf nait yny
vwyf yn vn kwymp ar ỽylaen y cledyueu. ac yna y|gw+
elwch chwi yr holl gledyueu yn torri gan ỽymhwys
i. heb gael o·honof i. vn argywed corforawl y ganth+
unt. Nyt dyn a dyweit hynn eb y gwarandawr. ac nyt
knawt dyneawl yw yr eidaw namyn maen adamant
neu gnawt haearnawl os gwir y aruaeth. Berna+
rt iarll bieu gware weith ion eb y chiarlymaen tros+
swch ywch bryt yma weithion eb y bernart. chwi a
glyw chware ryued. Yr auon a welsoch doe odieithr
y gaer ar dinas. mi a|e trossaf hi aỽory o|e chanawl
ac a|e dygaf o ỽewn y gaer y lenwi yr ystrydoed ar
tai ar selereu. ar lleoed vchaf val na bo lle atianc