Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 251

Brut y Brenhinoedd

251

eu ffyd ac ỽynt mỽy noc a| chỽn. A guedy guelet o
edelbert. vrenhin keint y brytanyeit yn ymỽrthot
A phregethu yr saesson ygyt aỽstin; sef a| wnaeth
ynteu blyghau. Ac anuon hyt ar edelflet vren+
hin y gogled ac ar y brenhined ereill o|r saesson. Ac
erchi udunt luydaỽ am pen dinas bangor ygyt ac
ef. y dial ar dunaỽt ac ar yr yscolheigon ar athraỽ+
on ereill ygyt ac ef a| tremygassei Aỽstin a|e prege+
th yr saesson. A guedy kynullaỽ diruaỽr lu onadunt.
dyuot a wnaethant ar llu hỽnnỽ ganthunt hyt
yg kaerlleon. yn| y lle yd oed brochuael yskithraỽc
yn eu herbyn. Ac yno y dothoedynt meneich a chre+
dyfwyr o pop manachloc o|r a hanoed o teyrnas y
brytanyeit. Ac yn uỽyhaf o dinas bangor y wedi+
aỽ duỽ ygyt ac eu kenedyl. Ac yna guedy ymgyn+
ullaỽ y lluoed o pop parth; dechreu ymlad a| wnaethant
y saesson ar brytanyeit. Ac o|r diwed y bu reit y vroch+
 el adaỽ y| dinas. Ac eissoes nyt heb wneuthur dir+
uaỽr aerua o|e elynyon. A guedy kaffel o edelflet
y dinas a gỽybot yr achaỽs yr dothoed y saỽl gredyf+
wyr hynny yno; ymchoelut eu harueu a| wnaeth+
ant yn| y credyfwyr. Ac yn yr vn dyd hỽnnỽ gan co+
ron merthyrolyaeth yd ellygỽyt y wlat nef deu can
ỽr a mil o|r meneich hynny. Ac odyna megys yd
oed y creulaỽn hỽnnỽ ar saesson ygyt ac ef. yn kyr+
  dinas bangor wedy clybot o|r brytanyeit y
 eulonder. ymgynullaỽ a| wnaeth holl tywysso+