Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. 20143A – tudalen 103r

Llyfr Blegywryd

103r

407

llu dỽyn lliaws o
wybydyeit am vn
peth y|ghyfreith
neu un gỽybydy+
at megys mach o+
ny ellir dỽyn na
mỽy na llei no deu
o tyston. Eei* yỽ ga+
llu dirỽyaỽ dyn neu
y ỽerthu trỽy wy+
bydyeit ac ny eill
trỽy dyston o gyfr+
eith. Trydyd yỽ ga+
llu ohonunt proui
yn|erbyn gỽat ac
amdiffyn. ac ny|s
dychaaỽn tyston.
Pan tysto tyst yn|y
tystolyaeth peth
yn gyureithaỽl

408

yn erbyn tyston
y|rei hynny a|el+
wir gỽrthtyston
y|ghyfreith ac ny
ellir eu llyssu. T  ̷ ̷+
eir tystolyaeth y+
ssyd ar eir ac ny  ̷
dygir y greir. ty+
stolyaeth lleidyr
ar|y gytleidyr. ỽr+
th y groc. a|thysto+
lyaeth nyt|elher y+
nn|y|erbyn pan dy+
ker ar eir. a|thysto+
lyaeth y gỽrthtyston
G·ỽybydyeit ym+
hop dadyl grym
tyston a gynhala+
nt a|chystal a alla+
nt ac a digaỽn tyston