Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 20 – tudalen 56br

Saith Doethion Rhufain

56br

goleu. abrỽsgvl ger y bron ac adaỽ
bỽyt a diaỽt y dreulaỽ pan delei newyn
arnei ỽrth na chyfeirch newyn y borthi.
A|r nos honno yd|oed marchaỽc pedry+
daỽc kadarn o|r gaer yn gwylyat he+
rỽr a grogassit y dyd hỽnnỽ. Ac y byd
yn troi o beỻ ac agos ef a|welei oleuat
amlỽc yn|y ỻe ny|s gwelsei kynno hyn+
ny eiryoet. a brathu y varch a wnaeth
y edrych pa le yd|oed y tan. a pha achaỽs
y gwnathoedit. A phann doeth ef a welei
mur a mynwent. ac eglỽys a|than v  ̷+
chel goleu yn yr eglỽys. A ffrỽynglym+
mu y varch a oruc ef ỽrth borth y vyn+
went. Ac yn|y aruot a|e arueu dỽyn
hỽyl y|r eglỽys y edrych pỽy a oed yndi.
A phan doeth nyt oed namyn morwyn+
wreic ieuangk yn eisted oduch bed ne+
wyd gladu a than goleu diuwc rac y
bronn a dogyn o vỽyt a diaỽt yn y hymyl
A gouyn a|wnaeth ef beth a wnaei dyn