Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 99v

Brut y Brenhinoedd

99v

wynt yn seith ran; y bydei trychant manach ym|p+
hop ran. A hynny oll yn ymborth o lauur ev dwy+
law. Ac abat y vanachloc honno a elwyt dvnawt.
A hwnnw a wydeat o geluydodev mwy noc vn dyn.
A gwedy gwybot o austin hynny; llawer uu ganthaw.
Ac anvon a oruc hyt ar dvnawt y ervynneit ydaw
dyuot yw gymorth y bregethu yr saesson ac y|ev dwyn
y gret. Ac yna yr anvones dvnawt drachevyn ar aus+
tin y venegi nat oed teilwng ganthunt bregethu
yr genedyl creulon hynny; canys o arallwlat y dath+
oed yr ystrawn genedloed hynny yn ormes ar ynys
brydein; a thrwy ev twill ac ev brat y lladassant yn
rieni ni ac yn kenedyl. Ac yn treissiaw on gwir dy+
lyet; ac yn alltudaw ac yn anreithiaw. ac yn dehol
rei o|r ynys ereill y ymylev yr ynys. Ac am hynny
ny pherthyn arnam ni na phregethu ydunt nac
vfydhau y neb; onyt y archesgob caer llion. canys
hwnnw yssyd primas dros ynys brydein. Pan wy+
bu delflet brenhin keint ymwrthot o dvnawt dyuot
gyt ac austin y bregethu ydunt; anvon a oruc ar
brenhin y gogled. a brenhin deheu lloegyr. ac erchi
ydunt dyuot ar gallu mwiaf a vei ganthunt hyt
yn mangor y dial ar dvnawt y greulonder wrth
y saesson. A gwedy ymgynvllaw o|r saesson y gal+
lu mwyaf a oed ganthunt; wynt a doethant hyt
yng|kaer lleon. Ac yno yd oed Brochuael ysgithrauc
ac a gavas uuyaf o|r brutannyeit y·gyt ac ef. Ac yn|y
dinas hwnnw yd oed o veneych ac ermytwyr niver
mawr. a hynny o bob manachloc o|r a oed yn ran y