Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 99r

Brut y Brenhinoedd

99r

mynyded keint a niver mawr yn|y ganlyn. A gwedy
ev dyuot ar hyt pant diffeith meithach no dym;
diffygeaw dwfyr arnadunt. a phaub yn|y damunaw.
Sef a oruc austin yna gwediaw ar y arglwyd ar gaf+
fel dwfyr. Ac y doeth anghel yn dirgeledic attaw y
erchi idaw na phedrussei dim o|e aruaeth; canys
duw a rodei ydaw pob peth o|r a archei yn gyfyawn.
Ac yna y doeth dwfyr o|r daear val y gallei paub ona+
dunt aruer o·honaw digoned. Ac yna y gelwis austin
cernel y lle hwnnw yr hynny hyt hediw. sef yw hyn+
ny lle dirgel o roec. Ac yna llawenhau o austin a dy+
vot racdaw hyt yng|keint. a phregethu yno a dwyn
y brenhin y gret a|y holl niveroed. Ac o·dyna y doeth ef
hyt yng|kaer raw; a thra uu yno yn pregethu. nevr
daroed gwniaw llawer o amravaelyon lysgyrneu
wrth y esgob wysg o wattwar amdanaw. Ac yna y gwe+
dyaut austin ar y arglwyd; pwy bynnac a enyt yn|y
dref honno y vot yn llyssgyrnic o hynny allan. Ac o+
dyna y doeth austin hyt yn llvndein y bregethu a dw+
yn llawer y gret onadunt. Ac yna ymovyn am yr
archesgobtyev ar eglwissev ar meibion llen a|daroed
ev distriw. Ac yna y managwyt ydaw vot archesgo+
bot yng|kaer llion ar wyssg; a seith esgobot a·danei
yn gyflawn o breladyeit gredyfus gatholic. a man+
achlogoed llawer a chwuennoed yn gwassaneithu
duw yndunt. Ac ym|plith y rei hynny yd oed mana+
chloc arbennic lle gelwyt bangor vaur ym maelor.
Ac yn honno yd oed o rivedi meneich yn gwassan+
eithu duw hep y prioreu ac ev swydwyr pey rennyt