Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 98v

Brut y Brenhinoedd

98v

A gwedy gwelet o theon archescob llvndein ac arches+
cob caer efrawc yr eglwysseu gwedy ev distriw ar
kwvennoed a yttoed yn ev gwassaneithu. Sef a oruc+
gant wynteu yna kymryt yr holl greiriev ac esgyrn
y sseynt. a ffo ac wynt hyt y lle ynealaf yn eryri rac
ovyn y paganyeit. A llawer onadunt a ffoas hyt yn
llydaw. canys nat oed yn|y dwy archesgobot vn eglwis
heb divetha o|r paganyeit creulon a llad y meibion llen
yn olofrud. Ac yna drwy llawer o amseroed y col+
les y brutannyeit coron y deyrnas ac ev teylyngdawt.
Ac y·gyt a hynny y ran a drigassei ganthunt o|r
ynys nyt a·dan vn brenhin y dalyassant; onyt
a·dan tri brenhin creulon a mynych ryueloed
rwngthunt ev hvneyn. Ac am hynny ny chauas y
saesson hevyt coron y deyrnas yna. Namyn dir uu
yr brutannyeit darystwng yr tri brenhin a dywet+
pwyt vchot; ac yr hynny wynt a ryveleynt ar bru+
tannyeit val kynt. Ac yn yr amser hwnnw y
doeth austin y gan Grigor bap hyt yn ynys bry+
dein y bregethu yr saesson ac y geisiaw ev dwyn
y ffyd grist. canys nevr daroed ydunt dilehu ffyd
grist yn llwyr oc ev plith. Ac yd oed y brutannyeit
yn kynnal fyd grist yn gadarn; yr pan dothoed y
ynys brydein gyntaf yn oes eleutherius bap. A phan
doeth austin escob gyntaf y ynys brydein; y dovyr y
doeth y dir. A phregethu a oruc yr saesson creulon;
a mwy lawer a|y guattwarei ef noc a|gredei ydaw.
ac eysswys y niver a vynnei duw rodi yspryt yndunt
wynt a gredeynt idaw. Ac odyno ef a doeth y tu a