Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 92r

Brut y Brenhinoedd

92r

nas ar|ugeint. ac ettwa drwy nerth duw ar einwch
chwitheu; ny a oruydwn ar wyr ruvein. ac a dialwn
arnadunt keissiaw an keithiwaw oc an ryddit. a chof+
fewch weithiawn y seguryt a gaussauch ys llawer o
amser ac ymdidan a gwraged. a gware gwydbwyll.
a sseec a thapplys. A choffewch bellach enynnv yn awch
glewder ac awch milwriaeth a bydwch duhvn diosgo
pan ym gaffoch a gwyr ruvein kinnynwch wynt y
megis ysgrybyl. ac ny|thybygant wy llauassu ohon+
nam ny rodi cat ar vaes ydunt. ac o gwnewch wyrda
vyn|gorchymyn; mynheu awch anrydedaf wrth auch
bod o bob da o|r a vo ymmediant ynnev. A phawb
onadunt a ymedewis gwneithur y orchymyn val
y gellynt oreu. Pan gigleu lles bot arthur yn
pregethu y wyr; sef a oruc yntev pregethu yw
wyr ynteu. A menegi ydunt y dylyei yr holl vyt
daristwng y sened ruvein; a choffewch chwitheu hep
ef y mae awch tadeu ac awch teideu a gynheliis ru+
vein yn bennaf lle o|r holl vyt oc ev dewred ac ev my+
lwriaeth ac ev fynnyant. Ac o|r achos hynny na oche+
lwch chwitheu hediw angheu yr kynnal ruvein yn ben+
naf; ac y gymryt teyrngedoed o ynyssoed ereill. a chwit+
theu a geffwch yr amkan a|vynnoch o|r a oresgynnoch
y·gyt a my. ac am hynny coffewch nat yr fo y doethem
ny yma; namyn yr ymlad yn duhvn ac yn gelyny+
on. ac wrth hynny kyt bwynt glew ar y dechre; sefwch
chwitheu yn duhvn gadarn ac o hynny y goruydwch.
A gwedy daruot idaw teruynv ar y ymadrawd; by+
dinaw y lu a oruc yn deudeng bydin. ac ym phob