Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 88r

Brut y Brenhinoedd

88r

arruthyr ganthaw. Sef y gwelei arth yn ehedec y
wrth y deheu a garw leis ganthaw; ac yn dysgynnv
yn yr aruordir. Ac a welei dreic yn dyuot o|r gorlle+
wyn; a chan lleuver y lygeit y goleuhae yr aruordir.
Ac ef a welei y dreic ar arth yn ymgyrchu; ac ymlad
girat ryngthunt. A gwedy hir ymlad; ef a welei
y dreic yn bwrw tanllachar ar yr arth. ac yn|y los+
gi yn ylw. Pan deffroas arthur; ef a datkanawd
y vreudwyt yr niver a oed yn y gilch. Sef y dihon+
glassant; menegi yd ymladei arthur a ryw ang+
hynvil o gawr. ac y gorvydei arthur arnaw. Ac
ny chredei arthur vot y dihonglat velly; namyn am
y vynediat y ymgyhwrd a lles amheraudyr ru+
vein. A phan doeth y dyd drannoeth y disgynas+
sant yn|y borth a elwir barbe flyw. Ac yna tyn+
nv pebylleu a orugant; ac aros yny doeth kwbyl
o wyr yr ynyssoed. Ac yd oedynt velly; y nychaf
gennat yn dyuot ar arthur. Ac yn menegi idav
ry dyuot cawr anryved y veint y wrth yr yspaen
a chripdeiliaw elen nith y hywel vab emyr llydav.
y dreis y ar y gwercheitweit. A mynet a hi hyt ym|p+
henn mynyd mihangel. A marchogeon y wlat a
aethant yn|y hol; ac ny thygiws ydunt. A phei
eleint ar longheu y ev hymlit; ef a|y ssodei wynt yn
y tonnev. Neu os godiwedei; ef a|y llynghei wynt yn llet
vew. A phan oed nos mynet a oruc arthur a bedwyr
vab pedrawc a chei vab kynyr yny uuant yn agos yr
mynyd. Ac wynt a weleint deu dan; vn a oed ar ben
y mynyd mawr. Ac arall a oed ar|ben mynyd a oed lei.