Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 86r

Brut y Brenhinoedd

86r

hined yr holl vyt; yn ystwng idi namyn tydi.
a thitheu am attal teyrnget a dylyei ruvein y gaf+
fel o|r ynys honno. ac a gafas vlkessar. ac amhero+
dron ereill gwedy ef. ac y·gyt a hynny llawered
o ynyssoed a ardrethynt y ruvein a gribdeilieisti.
A sened ruvein a varnawd arnat titheu; erbyn
yr awst nessaf adel; dy vot yn ruvein y gymryt
y vrawt a vynhwynthwy y varnv arnat. Ac y|th
dyvynnv ditheu y doethem ni hyt yma yn deudec.
Ac ony devwy di yno; yn yr oet hwnnw. Ednebid
di y deuhir hyt yma; y ovyn iawn ytti o sarhaedeu
ruvein val y barno y kledyfeu y rot ti ac wynt.
A gwedy gwarandaw o arthur yr hynn a oed yn
y llythyr; ef a aeth y gymryt y gynghor. Ac yna y
dywat katwr iarll kernyw; arglwyd vrenhin hep
ef. y mae arnafi ovyn goruot o lesged arnam ni
y bruttannyeit rac hyt ydym yn segur. ac yn ym+
rodi y wledeu a maswed ac ymdidan a gwraged.
ac overed. a hynny ys pymp mlyned a duc en gle+
wder an fynneant. ac ys iawnach ynni diolwch
y wyr ruvein dyuot y an kyffroi ni noc na delynt.
Ac yna y dywat arthur ha wyrda hep ef; vyng|kyt+
varchogeon ewch; a chwi a rodassawch ymi eri+
oet hyt yn hynn kynghoreu da frwithlawn llwy+
diannvs. ac yr awrhon y mae reit wrth gynghor
da. ac am hynny; medyliet pawb o·honawch kyn+
ghor grymvs frwithlawn. ac o byd duhvn an kyn+
ghor; ni a orvydwn ar wyr ruvein. A phan gaws+
sant teyrnget odymha gynt; yr dyvot a lluoed