Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 84r

Brut y Brenhinoedd

84r

orc. a llew vab kynvarch brenhin llychlyn. ac
achel vrenhin denmarc. O|r tu draw yr mor y
doeth holdin twyssawc rwytwn. burel tywyssa+
wc conoman. leodegar o volwyn. Betwyr tywys+
sawc normandi. Kei tywyssauc angywf. Gwi+
tard tywyssauc peitwf. a deudec gogyuurd
freinc. a gereynt carnwys yn ev blaen. A ho+
wel vab emyr llydaw. a llawer y·gyt a hynny a
vydei ryhir menegi ev kymyrred pob vn ar|neill
tu. Namyn ar vyrrder; ac yn wir. ny doeth y vn wlet
erioed o wyrda a gwragetda. a meirch da. ac adar
a chwn. a|thlyssieu mawr·weirthiawc. ac eur lles+
tri. a gwisgoed odidawc; o bali a phorffor a ssyndal
ac ermyn kymeint ac a doeth yno. Ac o|r yspayn
hyt ymma ar ny doeth o gareat arthur; nev
o|y wahawd. ny bu dyn o|r a vynhei da ny deley
yno yw gymryt yn llawen. o amrauaelion rodi+
on mynych ehelaeth o bob ryw da o|r a ervynnei
pawb wrth y vod a|y ewyllys. Ac ef a doeth llawer
yno y edrych ar voes a mynvt llys arthur o wyr+
da a gwraget da. A gwedy ymgynullaw ygyt hyt
yno; y niver a dywetpwyt vchot. yna y gelwyt y
tri archescob y wisgaw am arthur; ac y dodi y
goron am y benn. Ac yna y gorchmynnwyt y dy+
fric archesgob caer llion gwassanaeth yr effer+
ren. A phan daruu gwisgaw am arthur a mynet
y tu ar eglwys; yd oed deu archescob yn kynnal
y vrenhin·wisg amdanaw. Ac o|y vlaen ydoed
pedwar gwyr yn dwyn pedwar cledyf noethion.