Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 82r

Brut y Brenhinoedd

82r

a llad llawer o bop tu. Ac o|r diwet arthur a oruu;
a llad rickwlf. a goresgyn y wlat oll. A goresgyn
denmarc a oruc; a chymhell ar y bobyl gwedu idaw.
Ac yna yd edewis ef llew vab kynvarch yn vrenhin
yn llychlyn. ac ynteu a doeth hyt yn ynys brydein.
Odyno yd aeth arthur a|llynghes ganthaw hyt
yn freinc; a dechreu goresgyn freinc. Ac yn|y erbyn
ynteu y doeth ffrollo gwr a oed yn medu freinc
yna a·dan leo amherawdyr ruvein a llu mawr gan+
thaw; ac ymlat ac arthur yn wychyr llidiawc. ac
ny thygyws idaw. canys amlach oed varchogion
arthur; a gwell heuyt no|r eidaw ef. Ac yna y ffoas
ffrollo hyt ym|pharis; a chynvllaw llu attaw a
chau y dinas arnaw. Ac yno y doeth arthur ac
amgilchynv y dinas; ac ev kronni y mewn mis
ar vn tu. yny uu veiriw llawer o newin. Ac yna
y bu dolur gan frolo hynny; ac anvon ar arthur
y gynnic idaw ev mynet ylldeu y ynys a oed agos
yno y ymlad; ar kryfaf onadunt yll deu. kyme+
rei kyuoeth y llall. a gadel y deu lu yn ssegur.
Nyt oed well gan arthur dim no hynny. Ac
yr ynys yd|aethant yn gyweir pob vn onadunt.
o veirch ac aruev. ac ev deu lu yn edrych ar+
nadunt. Ac yn diannot kyrchu a oruc frolo
arthur yn llidiawc a gwayw; sef a oruc arth+
ur yna gochel y aruot. Ac yn gyflym gossot
ar frolo; ac ny ohiriawd frolo yny aeth yr llawr.
Ac yna tynhu cledyf a oruc arthur a cheissiaw
llad frolo; ac y kyuodes frolo yn wychyr llym