Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 81v

Brut y Brenhinoedd

81v

y niver a|y deilu. Ac yna yd ehedawt y glot ef a|y vilwyr
o voes a|mynvt a haelyoni; yny oed honneit dros
wyneb y teyrnassoet odyma hyt yn ruvein. ac
nad oed na brenhin nac arglwyd. na iarll na
barwn. a ellit y gyfflybu y arthur. Ac yny yttoed
ar bop brenhin y ovyn; rac ev goresgyn o·honaw.
Ac am hynny y peris pob brenhin cadarnhau
y gestyll; a gwneithur ereill newyd rac y ovyn
ef. Pan gigleu arthur hynny; medyliaw a oruc
pryffeithiaw o|y weithret. y klot a athoed idaw o
ymadrawt. Ac nyt oed lei y aruaeth no goresgin
holl evropa. Sef oed hynny; trayan yr holl vyt.
Ac nyt oed yna na brenhin nac arglwyt hyt yn
ruvein; ny bei yn keissiaw disgyblu wrth voes
a mynvt llys arthur. Ac yna y perys arthur pa+
rattoi llynghes y vynet llychlyn; canys marw
uuassei yna a sychelym brenhin llychlyn. A hwn+
nw a gymhynassei y vrenhiniaeth y lew vab kyn+
varch y nei; ac ny|s mynnei y llychlyn·wyr ef.
namyn dethol rickwlf yn vrenhin arnadunt.
Ac ymgadarnhau yn ev kestill; y geissiaw cadw
y wlat arnadunt. Ac yna yd oed gwalchmei
vab llew. yn oedran deudengmlwyd ar wassan+
aeth supplicius pab; a anvonassei arthur y ewythyr
vraut y vam hyt yno; y dysgu moes a mynvt
a marchogaeth y gan wyr ruvein. Ar pab hwnnw
a rodes aruev kyntaf erioet y walchmei. A phan
doeth arthur y dir llychlyn; ynychaf rickwlf a
llu mawr ganthaw. Ac ymgyrchu a orugant;