Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 77r

Brut y Brenhinoedd

77r

gwattwar am vthyr a|y lu. Pan wybu vthyr hynny
y peris yntev mynet yn ev hol y mewn; ac ymlad yn
wrawl ac wynt. a damgylchynv y dinas. a llad llawer
o bop tu yny uu nos. A|thrannoeth y boreu y doeth y
saesson allan o|r gaer; ac ymlad yn greulon ar|bryt+
tannieit yny uu ym|phell yn|y dyd. ac o|r diwed eiswis
y goruu y bryttannieit. Ac yna y llas octa ac ossa. ac
ereill a ffoas yn waradwydus. Ac yno y kyuodes y
brenhyn yn|y eiste o lewenyd; ac ny allws kyn no hyn+
ny. onyt val y troit ef yn|y wely. a dywedut drwy y
chwerthin. y bradwyr ysgymvn twyll·wyr. am galwei
yn hanner gwr marw; ac ysgwell yr hanner marw
a orffo. no|r byw y gorffer arnaw. ac ys gwerthuora+
ch merwi yn glotuawr. no buchedockau yn anglod+
vawr waradwidus. Gwedy y uudugoliaeth hon+
no y gwedillion o|r saesson a dienghis vchot. a ym+
gynullassant y·gyt. yn yr alban. a dechreu ryue+
lu val kynt. Ac y mynassei vthyr ev hymlit. ac
ny|s|gadei y gynghor idaw rac y glafet. a rac y vriw+
aw ar yr elor. Ac am hynny gleuwach oed y saesson
y volestu arnadunt no chynt. Ac yna medyliaw
a oruc y saesson am wneithur angheu vthyr. ac an+
von rei onadunt yn rith redussion y chwedleuha
y wrthaw. Sef y klywssant nat yvei vthyr diawt
namyn dwfyr ffynhawn a oed agos y dinas vero+
lam. Sef a orugant wyntheu gwenwiniaw y ffyn+
hawn a|y hamgilch. hyt na cheffit dym o|r dwfyr
heb wenwyn yndaw. Ac yna yr awr ac y llawas vth+
yr y dwfyr y bu varw. ac ef a phawb o|r a|y llawas.